Skip to content

Cymdeithas
Yr Hoelion Wyth

Cyflwyniad

Mae 6 cangen yng nghymdeithas Yr Hoelion Wyth, sef Banc Sîon Cwilt,  Wes Wes (Ardal Tŷ Ddewi), Hen-Dy-Gwyn, Beca (Efailwen),  Aberporth a Chors Caron.

Cwrdd unwaith y mis am 8 o'r glochish.

Mudiad Cymraeg, gwledig, werinol i ddynion y werin gyda phwyslais mawr ar hwyl ac ysgafnder a gwerinol.

Cefnogi achosion da a dyngarol, y Pethau, mudiadau a Sefydliadau Cymraeg a Chymreig.

Sefyll lan dros yr iaith, Cymru a'i phobol.

Rhoi cyfle i gymdeithasu a mwynhau gwrando ar siaradwyr a diddanwyr diddorol a difyr dros beint.

Cyfle i greu sbort a hiwmor a chael hwyl a chymdeithasu yn Eisteddfod Flynyddol yr Hoelion.

John Davies a'r Hoelion Wyth

“Roedden ni’n meddwl fod angen rhywbeth i dynnu’r dynion at ei gilydd i gael cymdeithas drwy gyfrwng y Gymraeg… Cyn pen dim yr oedd y gair ar led yn y broydd fod bechgyn Aberporth yn cael tipyn o hwyl yn cyfarfod unwaith y mis fin nos a dyma ardaloedd eraill yn awyddus i sefydlu cangen.”

Adroddiadau Diweddaraf

Cyfarfod Mawrth 2024

Cyfarfu’r aelodau yng Nghaffi Beca yn ôl ein harfer a hynny ar nos Fercher, Mawrth 27ain. Coesawyd yr aelodau a’r siaradwr gwadd, sef Geraint James, Awen Teifi  ynghyd gan y…

Ebrill 2024

Cynhaliwyd cyfarfod mis Ebrill, fel arfer, yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Dymunwyd gwellhad llwyr a buan i John Arfon at ôl triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar.Estynnwyd croeso cynnes gan…

Mawrth 2024

Fel arfer cynhaliwyd cyfarfod mis Mawrth yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Croesawyd pawb gan y cadeirydd Mr Claude James. I ddechrau eisteddodd pawb i lawr i fwynhau cawl bendigedig wedi…

Cyfarfod Beca 28ain Chwefror 2024

Croesawyd yr aelodau a’r siaradwr gwadd, Cris Tomos o Hermon gan ein Cadeirydd, Eifion Evans. Mae Cris yn adnabyddus i ni gyd fel dyn y grantiau. Bu’n cyflwyno gwybodaeth am…

Cyfansoddiad yr Hoelion Wyth

1. 
Adwaenir y Gymdeithas wrth yr enw YR HOELION WYTH a elwir o hyn ymlaen Y GYMDEITHAS.

2. Amcanion
I rymuso addysg gyhoeddus ac, yn arbennig, i hyrwyddo diwylliant, addysg a’r celfyddydau yng Nghymru trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg. Bydd y Gymdeithas yn amhleidiol yn boliticaidd ac yn anenwadol yn grefyddol. Er mwyn hyrwyddo’r amcanion hyn bydd y Gymdeithas yn gwneud unrhyw weithgaredd a ystyrir yn anghenrheidiol i hyrwyddo’r amcanion hyn neu a fydd yn debyg o’u hyrwyddo, y tu mewn i reolau’r Cyfansoddiad.

3. Aelodaeth
Bydd aelodaeth o’r Gymdeithas yn agored i fechgyn sydd yn cefnogi amcanion y Gymdeithas. Bydd tâl aelodaeth blynyddol a delir i Drysorydd y Gangen leol. Penderfynnir gan y Cyngor Cenedlaethol o bryd i’w gilydd (ar ol ymgynghori â’r Canghennau) y modd rhennir y tâl aelodaeth rhwng y Gangen leol a’r rhannau eraill o’r Gymdeithas.

4. Y Gagen Leol
Bydd y Gangen leol yn rhydd i drefnu ei gweithgareddau ei hun, i ethol swyddogion ac aelodau ei phwyllgor, i lunio’i rhaglen ei hun yn ôl dymuniadau a diddordebau’r aelodau os ydynt yn gytûn ag amcanion Y Gymdeithas. Cynrychiolir y Gagen leol gan bedwar aelod ar y Pwyllgor Cenedlaethol gyda’r hawl i bleidleisio yno ar ran y Gangen. Nid oes hawl diddymu cangen heb yn gyntaf gysylltu â’r Swyddogion Cenedlaethol.

5. Y Pwyllgor Cenedlaethol
(i) Bydd y Pwyllgor Cenedlaethol yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn, a gall gyfarfod pa bryd bynnag y penderfyno’r Pwyllgor Gwaith. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd Pwyllgor ar y nos Fawrth cyntaf ym mis Mai a’r nos Fawrth cyntaf ym mis Tachwedd, neu os bydd y Pwyllgor Gwaith neu’r Pwyllgor yn penderfynu nad yw’n ddymunol cyfarfod ar y dyddiad hwnnw, ar y dydd cyfleus agosaf i’r dyddiad hwnna, yn ôl penderfyniad y Pwyllgor Gwaith.
(ii) Aelodau’r Pwyllgor Cenedlaethol fydd swyddogion Cenedlaethol, a phedwar cynrychiolydd o bob cangen bydd yn trefnu gwaith y Gymdeithas yn genedlaethol, twy ffurfio a pheri gweithredu polisi cyffredinol Y Gymdeithas trwy roi arweiniad i ganghennau a derbyn ac ystyried adroddiadau ganddynt; trwy gyfwyno cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a chyfrifon a mentolen flynyddol Y Gymdeithas trwy dderbyn cynigion oddi wrth y Canghennau, eu trafod a phleidleisio arnynt. Bydd chwarter cyfanrif yr holl aelodau o’r Pwyllgor Cenedlaethol yn ffurfio corwm.
(iii) Er dwyn unrhyw fater arall gerbron y Pwyllgor rhaid cael caniatâd Llywydd Cenedlaethol a rhaid anfon copi ysgrifenedig o’r cynnig a chyrraedd saith niwrnod cyn y Pwyllgor at y Llywydd.

6. Swyddogion Cenedlaethol
Llywydd, Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd, Swyddogion Datblygu.

7. Ariannol
(i) Cyfrif mewn Banc o ddewis y Pwyllgor Cenedlaethol.
(ii) Pob Cangen i danysgrifio i’r Pwyllgor Cenedlaethol.
(iii) Y Pwyllgor Gwaith i benderfynu beth fydd cyfraniad blynyddol. Y Llywydd, Cadeirydd a’r Trysorydd fydd yn arwyddo sieciau: y Trysorydd ac un o’r ddau arall.

8. Cyfrifon
Bydd y flwyddyn ariannol yn dod i ben ar y 31 Awst. Cedwir llyfrau cyfrifon priodol gan y Trysorydd Cenedlaethol ac archwilir hwynt yn flynyddol gan archwiliwyr cymwys o ddewis y pwyllgor. Cedwir y llyfrau gan y Trysorydd Cenedlaethol a dyry ef gyfrif gwir a theg o gyfrifon Y Gymdeithas yn ei adorddiad blynyddol. Penderfynnir a chadarnheir unrhyw dreuliau gan y Swyddogion Cenedlaethol.

9. Newid y Cyfansoddiad
(i) Trwy benderfyniad y Pwyllgor Cenedlaethol yn unig y gellir newid y Cyfansoddiad hwn.
(ii) Rhaid rhoi i bob Cangen rybudd chwech wythnos ymlaen llaw am y bwriad i newid y Cyfansoddiad, gyda manylion digonol am y newid fwriadir.
(iii) Ni fydd unrhyw newid yn effeithiol oni fwrwi dros y newid:
(a) fwyafrif o’r pleidleisiau a fwrir ar y cynnig.
(b) nifer o bleidleisiau sydd yn gyfartal â chwarter cyfanrif cynrychiolwyr y canghennau.

10. Rheolau Sefydlog
Bydd gan y Pwyllgor Cenedlaethol awdurdod i wneud rheolau sefydlog i reoli ei weithrediadau ei hun, gan gynnwys y rhybudd a ofynnir am fwriad i gynnig unrhyw benderfyniad, ac unrhyw hawliau a roddir i ganghennau yn gofyn am alw cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Cenedlaethol; bydd ganddo hefyd awdurdod i wneud rheolau sefydlog ar gyfer pwyllgorau canghennau.

11. Diddymu’r Gymdeithas
Os bydd Y Gymdeithas byth yn cael ei ddiddymu bydd unrhyw arian neu eiddo a berthyn iddo a fydd yn weddill wedi talu’r holl dreuliau a’r holl ddyledion (y rhedwyd iddynt yn iawn) yn cael eu rhannu ymysg sefydliadau fyff yn gweithredu yng Nghymru ag amcanion tebyg i rai neu i holl amcanion Y Gymdeithas fel y’i penderfynnir gan y Gymdeithas.

Diolch i...