Cynhaliwyd cinio dathlu Hoelion Wyth Beca yn 40 oed yng Nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Ebrill 26ain. Croesawyd pawb ynghyd gan y Cadeirydd Eifion Evans cyn iddo alw ar y Parchedig Ken Thomas i offrymu gras.
Cawsom wledd ardderchog fel arfer, wedi ei weini gan staff cwrtais a serchog y caffi.
Bu Eurfyl yn darllen y cyfarchion canlynol wrth y canghennau, cyn galw ar John Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth i’n cyfarch. Yn ogystal a’n cyfarch a darllen cerdd er cof am Huw Griffiths ( Huw bach ) roedd John hefyd wedi llunio soned ac englyn gwych ar gyfer yr achlysur – gwelir y cyfan isod.
Yr awen a ddaeth o’r meini
I’r gwir Gymry sefydlu,
Yr Hoelion fel Cor y Cewri
A Beca yn ei pob yfory.
Dathlu nawr y deugain, y ddawn
O gadw’r Hoelen rhag gwyro,
Yr iaith a diwylliant y fro
Ond am ein cyn Hoelion, rhaid cofio.
Calfin Griffiths, ar ran Cangen Sion Cwilt
Mae’n braf fod Cangen Beca
Yn cyrraedd deugain oed,
A braf gweld bod ei hoelion
Mor ifanc ag erioed!
John y Graig ( 99 oed ), ar ran Cangen Aberporth
Llongyfarchiadau gwresog i chi ar gyrraedd 40 mlynedd ers sefydlu’r gangen. Dymuniadau gorau i chi, yn swyddogion ac aelodau, gan obeithio yr ewch o nerth i nerth wrth edrych ymlaen ddegawd i ddathlu eto yn 50 oed.
Wyn Evans, ar ran Cangen Hendy Gwyn
Hoelion 8 Cangen Beca yn dathlu’r deugain
Mae ysbryd Twm Carnabwth yn y tir-
ar ferched Beca ef heb os oedd ben.
A heno yn y caffi, wele’r gwir
wrth weld yr hoelion yn yr Efailwen.
Ei ddisgynyddion yw pob un rwyn siwr,
gwŷr cadarn,penderfynol,bois y gad
sy’n dilyn ’siampl dewrder mawr y gŵr,
a amddiffynnodd ormes a phob brad.
Bydd Eurfyl,Eifion Blaensawd,Vernon Cross
a Lenard John,Ken Mot; mae’n rhestr faith,
yn gwarchod ein diwylliant byw heb os
gan sicrhau parhad i’n hil a’n hiaith.
wrth ddathlu’r ruddem curwn nawr y drwm,
mae hoelion Beca’n fyw yng ngwaddol Twm.
Cael blas ar gymdeithasu – ein hoelion
Llawn hwyl, heno’n dathlu.
Ein golau drwy’r dyddiau du
A’u dawn dros beint, – cyd dynnu.
Cyfarchion penblwydd hapus a dymuniadau gorau am noson gofiadwy iawn wrth ddathlu’r deugain. Ymlaen at yr hanner cant a mwy.
John Jones, ar ran Cangen Cors Caron
Cofio Huw
(HUW -aelod gwerthfawr o gangen Beca. Roedd e wrth ei fodd ymhob Eisteddfod. Ef oedd ceidwad y cledd ac uchafbwynt y noson bob blwyddyn oedd ei weld yn arwain y cor unedig ar y diwedd.
Fe ddaeth a’i wen flynyddol
I’n llonni gyda’i sbri,
Yr hoelen 8 ragoraf
Oedd hwn i’n ‘steddfod ni.
Ei egni a’i frwdfrydedd
Lifeiriai dros y lle,
A cheidwad cledd arbennig,-
roedd Huw’n ei seithfed ne’.
Anghofiwch y cadeirio
A’r goron-,rhowch hi lawr.
Uchafbwynt yr eisteddfod
Oedd arwain y cor mawr.
Pwy ddaw yn awr i ddilyn
Ac arwain cor di-glem?
A ‘Chalon lan’ yn morio
A ninnau heb ein gem.
A thra bydd hoelen loyw’n
Disgleirio is y nen.
Ie,hoelen 8 fydd honno
A Huw fydd arni’n ben.
Hwn oedd ein hysbrydoliaeth
Ein hangor wrth y llyw,
Hwn oedd yr hoelen loywaf,
Ein ‘steddfod ni oedd Huw.
John Jones
Ar ol i John siarad, gwnaeth Eifion gyflwyno a croesawu’r wraig wadd sef Heledd Cynwal o Bethlehem ger Llandeilo. Mae Heledd yn wyneb cyfarwydd iawn ar y teledu – fe’i gwelir yn cyflwyno rhaglenni Cynefin, Cor Cymru, Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol ar S4C. Mae hi hefyd yn lais cyfarwydd ar y radio, yn cyflwyno rhaglen Bore Cothi o bryd i’w gilydd. Roedd Heledd wedi dod a nifer o eitemau oedd yn meddwl llawer iddi, yn cynnwys lamp glowr, ( glowr oedd ei thadcu ) llun teuluol, llun cartref y teulu yng Nghw Cynwal, ynghyd a llawer o eitemau arall a bu’n esbonio arwyddocad y cyfan mewn ffordd gartrefol a hwylus tu hwnt. Cawsom araith wych, yn llawn hiwmor ganddi ac roedd hi’n amlwg bod ei theulu yn bwysig iawn ac yn meddwl y byd iddi. Diolchodd Eifion i Heledd ac i John am noson wych, fydd yn aros yn hir yn y cof.