Cyfarfu’r aelodau yng Nghaffi Beca yn ôl ein harfer a hynny ar nos Fercher,
Mawrth 27ain. Coesawyd yr aelodau a’r siaradwr gwadd, sef Geraint James,
Awen Teifi ynghyd gan y cadeirydd, Eifion Evans. Diolchodd Geraint yn
gyntaf am y croeso ac am y gwahoddiad i siarad.
Dechreuodd wrth siarad am hanes y busnes a tharddiad y cyfan sef Siop DJ ac
Awen Teifi. Soniodd am ei fagwraeth yn Wdig, a’i amser fel crwt ifanc yn
Ysgol Wdig ac Ysgol Uwchradd Abergwaun. Nododd am y profiad da a fagodd yn
ifanc iawn wrth helpu mas a gweithio yn y garej yn Wdig, cyn mynd ymlaen o
hynny i werthu yswiriant ac wedyn I fod yn bostmon.
Wedyn ar ol priodi, prynodd Geraint a Sian siop yn Abergwaun a sefydlu
busnes o’r newydd sef Siop DJ. Yna, gweld bod bwlch yn y farchnad a chyfle
yn Aberteifi wedi i Siop y Castell gau. Wedi hyn, aethant ati i sefydlu ail
fusnes sef Awen Teifi a agorwyd yn gyntaf yng Nghanolfan Teifi yn Awst 1999.
Prynont 23 Stryd Fawr, Aberteifi, ac agor yn y man presennol ym Mehefin
2001. Gwnaeth lleoliad y busnes a gofod ychwanegol, eu galluogi i gadw tipyn
mwy o stoc e.e teganau a Lego ayyb. Yna aethant ymlaen i agor oriel o waith
celf Aneurin Jones yn 2005, gan ehangu’r oriel ymhellach gyda lluniau
Meirion Jones, ac yna ei wraig Joanna.
Wedyn, fe wnaethant y penderfyniad i gau Siop DJ cyn diwedd 2006, gan fod y
siop yn Aberteifi yn ffynnu’n fwy. Wedyn symudon nhw o Abergwaun, i fyw i
ardal Eglwyswrw a chanolbwyntio ar y siop yn Aberteifi yn 2006.
Soniodd Geraint am y ffordd y mae wedi gweld llawer o newidiadau yn
Aberteifi er budd y dref, ac mae’r nifer o bobl sydd bellach yn dod i
Aberteifi wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd noson
hyfryd yng nghwmni pawb, a diolchodd Geraint unwaith yn rhagor i bawb am y
gwahoddiad.
Diolchodd Eifion i Geraint am noson wych, cyn i ni fwynhau basned o gawl bendigedig Robert, diolch Rob.