CymdeithasYr Hoelion Wyth
Cyflwyniad
Mae 6 cangen yng nghymdeithas Yr Hoelion Wyth, sef Banc Sîon Cwilt, Wes Wes (Ardal Tŷ Ddewi), Hen-Dy-Gwyn, Beca (Efailwen), Aberporth a Chors Caron.
Cwrdd unwaith y mis am 8 o'r glochish.
Mudiad Cymraeg, gwledig, werinol i ddynion y werin gyda phwyslais mawr ar hwyl ac ysgafnder a gwerinol.
Cefnogi achosion da a dyngarol, y Pethau, mudiadau a Sefydliadau Cymraeg a Chymreig.
Sefyll lan dros yr iaith, Cymru a'i phobol.
Rhoi cyfle i gymdeithasu a mwynhau gwrando ar siaradwyr a diddanwyr diddorol a difyr dros beint.
Cyfle i greu sbort a hiwmor a chael hwyl a chymdeithasu yn Eisteddfod Flynyddol yr Hoelion.
John Davies a'r Hoelion Wyth
“Roedden ni’n meddwl fod angen rhywbeth i dynnu’r dynion at ei gilydd i gael cymdeithas drwy gyfrwng y Gymraeg… Cyn pen dim yr oedd y gair ar led yn y broydd fod bechgyn Aberporth yn cael tipyn o hwyl yn cyfarfod unwaith y mis fin nos a dyma ardaloedd eraill yn awyddus i sefydlu cangen.”
Adroddiadau Diweddaraf
Cyfansoddiad yr Hoelion Wyth
1.
Adwaenir y Gymdeithas wrth yr enw YR HOELION WYTH a elwir o hyn ymlaen Y GYMDEITHAS.
2. Amcanion
I rymuso addysg gyhoeddus ac, yn arbennig, i hyrwyddo diwylliant, addysg a’r celfyddydau yng Nghymru trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg. Bydd y Gymdeithas yn amhleidiol yn boliticaidd ac yn anenwadol yn grefyddol. Er mwyn hyrwyddo’r amcanion hyn bydd y Gymdeithas yn gwneud unrhyw weithgaredd a ystyrir yn anghenrheidiol i hyrwyddo’r amcanion hyn neu a fydd yn debyg o’u hyrwyddo, y tu mewn i reolau’r Cyfansoddiad.
3. Aelodaeth
Bydd aelodaeth o’r Gymdeithas yn agored i fechgyn sydd yn cefnogi amcanion y Gymdeithas. Bydd tâl aelodaeth blynyddol a delir i Drysorydd y Gangen leol. Penderfynnir gan y Cyngor Cenedlaethol o bryd i’w gilydd (ar ol ymgynghori â’r Canghennau) y modd rhennir y tâl aelodaeth rhwng y Gangen leol a’r rhannau eraill o’r Gymdeithas.
4. Y Gagen Leol
Bydd y Gangen leol yn rhydd i drefnu ei gweithgareddau ei hun, i ethol swyddogion ac aelodau ei phwyllgor, i lunio’i rhaglen ei hun yn ôl dymuniadau a diddordebau’r aelodau os ydynt yn gytûn ag amcanion Y Gymdeithas. Cynrychiolir y Gagen leol gan bedwar aelod ar y Pwyllgor Cenedlaethol gyda’r hawl i bleidleisio yno ar ran y Gangen. Nid oes hawl diddymu cangen heb yn gyntaf gysylltu â’r Swyddogion Cenedlaethol.
5. Y Pwyllgor Cenedlaethol
(i) Bydd y Pwyllgor Cenedlaethol yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn, a gall gyfarfod pa bryd bynnag y penderfyno’r Pwyllgor Gwaith. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd Pwyllgor ar y nos Fawrth cyntaf ym mis Mai a’r nos Fawrth cyntaf ym mis Tachwedd, neu os bydd y Pwyllgor Gwaith neu’r Pwyllgor yn penderfynu nad yw’n ddymunol cyfarfod ar y dyddiad hwnnw, ar y dydd cyfleus agosaf i’r dyddiad hwnna, yn ôl penderfyniad y Pwyllgor Gwaith.
(ii) Aelodau’r Pwyllgor Cenedlaethol fydd swyddogion Cenedlaethol, a phedwar cynrychiolydd o bob cangen bydd yn trefnu gwaith y Gymdeithas yn genedlaethol, twy ffurfio a pheri gweithredu polisi cyffredinol Y Gymdeithas trwy roi arweiniad i ganghennau a derbyn ac ystyried adroddiadau ganddynt; trwy gyfwyno cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a chyfrifon a mentolen flynyddol Y Gymdeithas trwy dderbyn cynigion oddi wrth y Canghennau, eu trafod a phleidleisio arnynt. Bydd chwarter cyfanrif yr holl aelodau o’r Pwyllgor Cenedlaethol yn ffurfio corwm.
(iii) Er dwyn unrhyw fater arall gerbron y Pwyllgor rhaid cael caniatâd Llywydd Cenedlaethol a rhaid anfon copi ysgrifenedig o’r cynnig a chyrraedd saith niwrnod cyn y Pwyllgor at y Llywydd.
6. Swyddogion Cenedlaethol
Llywydd, Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd, Swyddogion Datblygu.
7. Ariannol
(i) Cyfrif mewn Banc o ddewis y Pwyllgor Cenedlaethol.
(ii) Pob Cangen i danysgrifio i’r Pwyllgor Cenedlaethol.
(iii) Y Pwyllgor Gwaith i benderfynu beth fydd cyfraniad blynyddol. Y Llywydd, Cadeirydd a’r Trysorydd fydd yn arwyddo sieciau: y Trysorydd ac un o’r ddau arall.
8. Cyfrifon
Bydd y flwyddyn ariannol yn dod i ben ar y 31 Awst. Cedwir llyfrau cyfrifon priodol gan y Trysorydd Cenedlaethol ac archwilir hwynt yn flynyddol gan archwiliwyr cymwys o ddewis y pwyllgor. Cedwir y llyfrau gan y Trysorydd Cenedlaethol a dyry ef gyfrif gwir a theg o gyfrifon Y Gymdeithas yn ei adorddiad blynyddol. Penderfynnir a chadarnheir unrhyw dreuliau gan y Swyddogion Cenedlaethol.
9. Newid y Cyfansoddiad
(i) Trwy benderfyniad y Pwyllgor Cenedlaethol yn unig y gellir newid y Cyfansoddiad hwn.
(ii) Rhaid rhoi i bob Cangen rybudd chwech wythnos ymlaen llaw am y bwriad i newid y Cyfansoddiad, gyda manylion digonol am y newid fwriadir.
(iii) Ni fydd unrhyw newid yn effeithiol oni fwrwi dros y newid:
(a) fwyafrif o’r pleidleisiau a fwrir ar y cynnig.
(b) nifer o bleidleisiau sydd yn gyfartal â chwarter cyfanrif cynrychiolwyr y canghennau.
10. Rheolau Sefydlog
Bydd gan y Pwyllgor Cenedlaethol awdurdod i wneud rheolau sefydlog i reoli ei weithrediadau ei hun, gan gynnwys y rhybudd a ofynnir am fwriad i gynnig unrhyw benderfyniad, ac unrhyw hawliau a roddir i ganghennau yn gofyn am alw cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Cenedlaethol; bydd ganddo hefyd awdurdod i wneud rheolau sefydlog ar gyfer pwyllgorau canghennau.
11. Diddymu’r Gymdeithas
Os bydd Y Gymdeithas byth yn cael ei ddiddymu bydd unrhyw arian neu eiddo a berthyn iddo a fydd yn weddill wedi talu’r holl dreuliau a’r holl ddyledion (y rhedwyd iddynt yn iawn) yn cael eu rhannu ymysg sefydliadau fyff yn gweithredu yng Nghymru ag amcanion tebyg i rai neu i holl amcanion Y Gymdeithas fel y’i penderfynnir gan y Gymdeithas.

