Skip to content

Tachwedd 2024

    Cynhaliwyd cyfarfod mis Tachwedd, fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Ein siaradwyr gwadd oedd Ann a Kenvin Morris o Faenclochog ac estynnwyd croeso cynnes iddynt gan y cadeirydd Claude James. Daw Ann yn wreiddiol o Bontypridd a Kenvin o Twffton. Mae’r ddau yn weithgar yn eu cymuned ac yn cefnogi nifer o fudiadau ac elusennau. Cyn ymddeol roedd Ann yn arhrawes ac yn bennaeth yn ysgolion Sir Benfro, adeiladwr oedd Kenvin gyda diddordeb mawr mewn garddio.

    Gyda Ann yn siarad a Kenvin yn rhoi lluniau ar sgrin, cawsom hanes beth oedd wedi dylanwadu ar eu bywyd. Pan yn blentyn, roedd Ann yn byw ym Mhontypridd ac yn ymweld â theulu yn Twffton yn rheolaidd ac yma cyfarfu a’i gŵr Kenvin.

    Cafwyd hanes diddorol o’r amser fu Ann yn tyfu i fyny ym Mhontypridd gan ddod i fewn a hanes trychineb glofaol Pwll Glo Cilfynydd yn 1894 pan gollodd 281 o weithwyr eu bywydau. Hefyd cafwyd hanes adeiladu pont unigryw Pontypridd ar gost o £500!! a hefyd hanes Dr William Price a oedd y cyntaf i losgi corff dynol.

    Dechrau a gorffen y cyflwyniad hynod o ddiddorol yn Twffton a chawsom noson hwylus dros ben. Diolchwyd i’r ddau yn wresog gan Mel Jenkins.