Cynhaliwyd Eisteddfod blynyddol yr Hoelion Wyth yn Nhafarn Ffostrasol ar nos Wener, Hydref 27ain. Arweinyddion y noson oedd Eurfyl Lewis, Llanglydwen a John Jones, Ffair Rhos a’r ddau feirniad oedd y Prifardd Ceri Wyn Jones, Aberteifi a Shon “Midway” Rees, Crymych. Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y nos a cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen a fwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan i gangen Beca a cyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen wnaeth ennill y marciau uchaf i gangen Cors Caron. Enillwyd y gadair am ysgrifennu telyneg ar y testun “Dathlu” gan John Jones, Cors Caron a’r goron am ysgrifennu cerdd ddigri ar y testun “Y Trip” gan Geraint Morgan, Cors Caron – llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu llwyddiant. Cyflwynwyd Tlws cangen Aberporth am y perfformiad gorau ar y llwyfan ( dweud joc ) gan Wyn Evans, Sion Cwilt. Enillwyd tlws coffa Huw Griffiths ar y cyd rhwng cangen Beca a Sion Cwilt. Cafwyd noson hyfryd yng nghwmni’n gilydd a diolchodd Eurfyl i Ceri a Shon am feirniadu, i John am ei gynorthwyo i arwain y noson, i dafarn Ffostrasol am ganiatau i ni gynnal yr Eisteddfod yno ac i aelodau’r canghennau am eu cefnogaeth. Roedd hi’n wych cael dod at ein gilydd unwaith yn rhagor a treuliwyd amser hyfryd yn cymdeithasu’n braf ar derfyn yr Eisteddfod.
Dyma restr y canlyniadau:-
Dweud Joc
- Wyn Evans, Sion Cwilt
- Geraint Morgan, Cors Caron
- Vernon Beynon, Beca
Stori a Sain
- Huw a Daniel, Cors Caron
- Tudur ac Eurfyl, Beca
- Digby ac Wmffre, Sion Cwilt
Sgetsh
- Beca
- Cors Caron
- Sion Cwilt
Can Ddigri
- Beca
- Sion Cwilt
- Cors Caron
Cor
- Beca a Sion Cwilt
- Cors Caron
Brawddeg ar y gair “FFOSTRASOL”
- Eurfyl Lewis, Beca
- Geraint Morgan, Cors Caron
- Geraint Morgan, Cors Caron
Brysneges ar y lythyren “D”
- Alun Davies, Cors Caron
- John Jones, Cors Caron
- Eurfyl Lewis, Beca a.Gwyndaf Evans, Beca
Limrig yn cynnwys y llinell “ Aeth Geraint I Ffrainc am y rygbi”.
- Eurfyl Lewis, Beca
- Eurfyl Lewis, Beca
- Eurfyl Lewis, Beca
Creu arwyddair i unrhyw sefydliad
- Eurfyl Lewis, Beca
- John Jones, Cors Caron
- Geraint Morgan, Cors Caron
Telyneg ar y testun “Dathlu”
- John Jones, Cors Caro
- Ffugenw – Hiraeth
- Eurfyl Lewis, Beca
Cerdd ddigri ar y testun “Hoelen”.
- Geraint Morgan, Cors Caron
- John Jones, Cors Caron
- Eurfyl Lewis, Beca