Cynhaliwyd Eisteddfod blynyddol yr Hoelion Wyth yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Wener, Mawrth 15fed. Arweinydd y noson oedd Huw James, Llanwinio a’r ddau feirniad oedd y Parchedig Huw George, Clunderwen a’r Prifardd Tudur Dylan Jones, Caerfyrddin. Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y nos a cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen a fwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan i gangen Beca a cyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen wnaeth ennill y marciau uchaf hefyd i gangen Beca. Enillwyd y gadair am ysgrifennu cerdd ddigri ar y testun “Cadw’n Heini” gan Lyn Ebeneser, Cors Caron a’r goron am ysgrifennu telyneg neu cerdd goffa ar y testun “Cofio” gan Eurfyl Lewis, Beca – llongyfarchiadau mawr i’r ddau ar eu llwyddiant. Cyflwynwyd Tlws cangen Aberporth am y perfformiad gorau ar y llwyfan i gor Beca. Cafwyd noson hyfryd yng nghwmni’n gilydd a diolchodd Eurfyl Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth i Huw a Dylan am feirniadu, i Huw am arwain y noson yn ei ffordd unigryw, i Robert James am ddarparu cawl blasus ac am ganiatau i ni gynnal yr Eisteddfod yng Nghaffi Beca, i Lynn, Gwyndaf, Eifion a Iorwerth ac Alun am mofyn y llwyfan o Ysgol Beca ac i Ysgol Beca am ei fenthyg, i bawb wnaeth gyfrannu gwobrau raffl, i bawb fu’n helpu trefnu’r noson ac i aelodau’r canghennau am eu cefnogaeth.
Dyma restr y canlyniadau:-
Stori a Sain
- Cors Caron
- Beca
- Sion Cwilt
Dweud Joc
- Bryan Davies, Sion Cwilt
- Eifion Evans, Beca
- Vaughan Evans, Cors Caron
Can Ddigri
- Tudur ac Eurfyl Lewis ac Eifion Griffiths, Beca
- Criw Cors Caron
- Criw Sion Cwilt
Sgetsh
- Cors Caron
- Sion Cwilt
- Beca
Cor
- Beca
- Sion Cwilt
- Cors Caron
Brawddeg ar y gair “CEREDIGION”
- Geraint Morgan, Cors Caron
- Eurfyl Lewis, Beca
- John Jones, Cors Caron
Brysneges ar y lythyren “M”
- Gwyndaf Evans, Beca
- Geraint Morgan, Cors Caron
- Ken Thomas, Beca
Limrig yn cynnwys y llinell “ Tra’n cerdded mynyddoedd Preseli”.
- Eurfyl Lewis, Beca
- Eurfyl Lewis, Beca
- John Jones, Cors Caron
Telyneg / Cerdd goffa ar y testun “Cofio”
- Eurfyl Lewis, Beca
- Gwyndaf Evans, Beca
- Lyn Ebeneser, Cors Caron
Cerdd ddigri ar y testun “Cadw’n Heini”.
- Lyn Ebeneser, Cors Caron
- John Jones, Cors Caron
- Geraint Morgan, Cors Caron
Pwyntiau Llwyfan
- Beca 36
- Cors Caron 35
- Sion Cwilt 34
Pwyntiau Cartref
- Beca 11
- Cors Caron 10
- Sion Cwilt 0
Bu criw o rhaglen Cefn Gwlad yn ffilmio ychydig o’r Eisteddfod a bydd eitem yn ymddangos ar y rhaglen yn fuan.
Tynnwyd y raffl fawr ar ddiwedd yr Eisteddfod, diolchwyd i bawb fu’n gwerthu’r tocyne er budd Ambiwlans Awyr Cymru a Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd. Dyma’r buddugwyr:-
£100 – Tomos Davies, Aberbanc
£50 – Eifion Griffiths, Gelli
£25 – Aled Thomas, Y Mot
Cadeirio Lyn
Cadw’n Heini
(Treialon Merch Megan)
A glywsoch chi son am Lisa, ferch Megan?
Roedd hi’n byw yn Ffair Rhos, yn reit agos i’r cwar;
Roedd hi’n gryn ugen stôn, yn byw ar bîff byrgyrs,
Ac fe gariai yn hawdd lwyth o bêls ar ei gwar.
Fe gwrddodd â hipi o ardal Manceinion,
Un tene oedd Herman, mor gul â ffrâm beic,
Medde Lisa, ‘Ai no ai’m tŵ big for iw, darling
So ai’m wiling tŵ lŵs ôl mai ffat, iff iw leic.’
O hynny ymlaen, buodd fyw ar syltanas,
Ar toffw a lentils, ar aeron a phys,
Fe gollodd hi un stôn ar ddeg mewn pythefnos,
Ac fe gollodd dair arall cyn diwedd y mis.
Fe ddaeth Lisa mor ffit, gallai neidio dros gatie;
Gallai redeg deg milltir heb fynd mâs o bwff,
Roedd hi’n ffoli ar prŵns gan eu llyncu nhw’n gyfan,
A syrup of ffigs, roedd hi’n garglo â’r stwff.
Ond mae ’na beryglon mewn byw yn llysieiol,
Mae e’n apt o greu nwyon reit ddrewllyd a llac,
Ac un dydd, ar ôl platied o reis a spigoglys,
Fe deimlodd yn sydyn yr awydd am gac.
Yn union run adeg fe daniodd rhen Herman
Ei faco Morocan, ac fe ffrwydrodd y nwy,
Canfuwyd hi Lisa tu draw i Dŵr Pisa
Tra Herman hedfanodd dros Raeadr Gwy.
Boed hyn i chi’n rhybudd: wrth adfer eich ffitrwydd,
Ewch ati’n rhesymol, na wnewch ddim ar hast,
Gwnewch bopeth yn raddol, sdim pwrpas mewn rhuthro,
Rhaid pwyllo cyn hoelio eich fflag ar y mast;
Mae Lisa yn ôl nawr mor anferth â mwdwl,
Mae’n unig heb Herman, ddiflannodd i’r nos,
Ond fe gofiwn o hyd sut wnaeth Lisa ferch Megan
Am sbel fyw’n ferch Figan ar lethrau Ffair Rhos.
Coroni Eurfyl
I gofio’n annwyl am Huw Griffiths ( Huw bach ) arweinydd Cor Hoelion Wyth Cangen Beca
Cofio
Cofio’r wên na phyla amser, cofio’r hwyl a’r tynnu coes,
Cofio’i boeni hyd at syrffed, cofio hefyd byth gair croes.
I Galfaria troes ei wyneb, yng Nghalfaria gwyn ei fyd,
Dyma lle bu’n meithrin donie, fu yn sylfaen iddo cyd.
Cofio’n eistedd ger yr organ, ledio’r canu wna bob tro,
Cofio’i law yn troelli gered, winc i Mef, “ripitwch to”!
Cofio’r croeso mor ddiffuant, bydde’n rhoi i weision Duw,
Cofio’r parch ddangosodd iddynt, dwedyd diolch bob tro wnaeth Huw.
Cofio’i weld mewn Steddfod Hoelion, mas o’i grys a bach yn gâs,
Wedi Clive i ennill cwpan, “blydi fix, ma ishe gras”!
Cofio’n diolch i siaradwyr, fydde’n dod ma yn eu tro,
Pawb ohonynt nawr yn cofio, am Huw bach, annwylyn bro.
Braint yn wir oedd bod yn aelod, o gôr Beca Hoelion Wyth,
A cael Huw i ni’n arweinydd, pennaeth cadarn ar y llwyth.
Cofio’i gyfeillgarwch penna, gyda’i bartner ffyddlon Roy,
Cofio’i weld mewn sawl etholiad, yn canfaso dros y boi.
Cofio’i weld yn dechre rhasys, yng Nghanolfan Ffynnonwen.
Ei gofio hefyd yn yr Aelwyd, dyma ddyddie da dros ben.
Hoffai ddawnsio gyda’r merched, a ‘da Gareth, eitha llon,
Ei ben-ol yn shiglo gered, roedd ei rythm yn “spot on”.
Ma ‘na lwyth o storie difyr, gellir dweud am Huw Waunfach,
Er yn gynnil o gorffolaeth, cawr o foi ar goese bach.
Cafodd anrheg i’w drysori, llwyr haeddianol degawd nol,
Rhoddwyd plat arbennig iddo, Halen y Ddaear ddaeth i’w gôl.
Diolch wnawn I’w deulu annwyl, am y gofal roddoch chi,
Gareth, Margaret, Eifion, Meinir, diolch eto yw ein cri.
Er fod bellach wedi’n gadel, rhaid ni beido bod yn drist,
Cofio’n llawen wnawn amdano, seren oedd a ffrind i Grist.
Addunedwn gyda’n gilydd, reit ar ddechre’r flwyddyn hon,
Cymryd dalen mas o’i lyfr, a byw bywyd llawn a llon.
Y ddau feirniad a’r arweinydd