Cynhaliwyd Eisteddfod blynyddol yr Hoelion Wyth yn Nhafarn Ffostrasol ar nos Wener, Tachwedd 29ain. Arweinydd y noson oedd John Jones, Ffair Rhos a’r ddau feirniad oedd Endaf Griffiths, Llanpumsaint a Cennydd Jones, Pontsian. Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y nos a cyflwynwyd Tlws Beca i’r gangen a fwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan i gangen Beca, Cors Caron a Sion Cwilt – y dair gangen yn gyfartal. Cyflwynwyd Tlws yr Eisteddfod i’r gangen wnaeth ennill y marciau uchaf i gangen Beca. Enillwyd y gadair am ysgrifennu cerdd ar y testun “Heddwch” gan Eurfyl Lewis, Beca a’r goron am ysgrifennu cerdd ddigri ar y testun “Y Sioe” hefyd gan Eurfyl Lewis, Beca -llongyfarchiadau mawr iddo ar ei llwyddiant yn cipio’r dwbwl. Cyflwynwyd Tlws cangen Aberporth am y perfformiad gorau ar y llwyfan ( sgets ) gangangen Sion Cwilt. Enillwyd tlws coffa Huw Griffiths ar y cyd rhwng cangen Beca a Sion Cwilt. Cafwyd noson hyfryd yng nghwmni’n gilydd a diolchodd John yn ddiffuant i Endaf a Cennydd am feirniadu, i dafarn Ffostrasol am ganiatáu i ni gynnal yr Eisteddfod yno ac i aelodau’r canghennau am eu cefnogaeth. Roedd hi’n wych cael dod at ein gilydd unwaith yn rhagor a treuliwyd amser hyfryd yn cymdeithasu’n braf ar derfyn yr Eisteddfod.
Dyma restr y canlyniadau:-
Dweud Joc
1. John Meredith, Cors Caron
2. Brian Edwards, Beca
3. Wyn Evans, Sion Cwilt
Stori a Sain
1. Eurfyl ac Eifion, Beca
2. Iwan ac Wmffre, Sion Cwilt
3. Huw a Daniel, Cors Caron
Sgetsh
1. Sion Cwilt
2. Cors Caron
3. Beca
Eitem Ddigri
1. Sion Cwilt
2. Beca
3. Cors Caron
Cor
1. Cors Caron
2. Beca
3. Sion Cwilt
Brawddeg ar y gair “ABERAERON”
1. John Jones, Cors Caron
2. Eurfyl Lewis, Beca
3. Eurfyl Lewis, Beca
Brysneges ar y lythyren “M”
1. Eurfyl Lewis, Beca
2. Eurfyl Lewis, Beca
3. Eurfyl Lewis, Beca
Limrig yn cynnwys y llinell ” Y merched sy’n ffynnu’n y campau”.
1. Alun Davies, Cors Caron
2. Alun Davies, Cors Caron
3. Eurfyl Lewis, Beca
Creu joc newydd
1. Eurfyl Lewis, Beca
2. Eurfyl Lewis, Beca
3. Eurfyl Lewis, Beca
3. John Meredith, Cors Caron
Cerdd ar y testun “Heddwch”
1. Eurfyl Lewis, Beca
2. John Jones, Cors Caron
3. John Jones, Cors Caron
Cerdd ddigri ar y testun “Y Sioe”.
1. Eurfyl Lewis, Beca
2. Calfin Griffiths, Sion Cwilt
3.John Jones, Cors Caron
Calfin Griffiths, Sion Cwilt
Dyma luniau o’r noson

Y beirniaid

Ymdrech Sion Cwilt o’r stori a sain
