Skip to content

Cyngerdd Hoelion Wyth

    Ar y 15eg o Dachwedd, cynhaliwyd cyngerdd blynyddol Yr Hoelion Wyth yng Nghaffi’r Emlyn, Tanygroes. Parti ‘Pam Lai’ o ardal Llambed ddaeth i’n diddaniu, a chafwyd gwledd am awr a hanner yn eu cwmni. Ffurfiwyd y parti’n wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Ceredigion, Tregaron yn 2020, ond daeth Covid a’i ofidiau i chwalu pob trefniant am ddwy flynedd. Pan ail gychwynwyd ymarfer, bu anghytuno a’i doeth neu beidio fuasai cystadlu’n erbyn partion profiadol a oedd wedi hen arfer bod ar lwyfan y Genedlaethol – nifer yn dweud na, ond nifer hefyd am fentro. Yn y diwedd dywedodd un ‘Pam Lai’ – a dyma ‘r enw wedi ei eni a’i sefydlu. Arweinydd y parti o fechgyn talentog yw enillydd Can i Gymru 2024, Sara Davies. Cafwyd amrywiaeth o eitemau, o’r cor pwerus i unawdau, deuawdau, sgetsys a hyd yn oed band ac arweinydd ffraeth a doniol yn Hywel Roderick. Yn sicr, noson i’w chofio a blesiodd y gynulleidfa niferus yn fawr. Roedd elw’r noson yn mynd tuag at prostad Cymru, ac ar hyn o bryd heb orffen cael y cyfan i fewn, fe fyddwn yn trosglwyddo £2,000 yn gysurus tuag at goffrau’r achos teilwng yma sy’n effeithio ar ganran uchel o ddynion. Roedd raffl ymghlwm a’r noson hefyd – diolch i’r noddwyr hael sef Caffi’r Emlyn, Tanygroes; Wynne Phillips, Hendy Gwyn; Emyr a Sarah Jones, Drefach Felindre; Clwb Rygbi Tregaron ac O. C. Davies, Penparc. Diolch yn arbennig i’r ddau brif enillydd sef Hywel Roderick, Pam Lai (£100) a Trefor Evans, Hen Dy Gwyn (£50.00) am ddychwelyd eu gwobrau i’r coffrau. Diolch eto i Gaffi’r Emlyn am y croeso a’r bwyd hyfryd ac i bawb a weithiodd mor galed i sicrhau llwyddiant y noson.

    Mi aw!