Cyfarfu’r aelodau ar nos Fercher, Hydref 27ain a hynny, yn ôl ein harfer, yng Nghaffi Beca, Efailwen.
Estynodd y Cadeirydd, Eifion Evans, groeso cynnes i ŵr gwadd y noson sef y canwr Trystan Llyr. Er fod Trystan yn gyfarwydd i ni gyd, manteisiwyd ar y cyfle i ddod i’w adnabod yn well, drwy gynnal sesiwn o holi ac ateb yn ei gwmni.
Roedd Eurfyl wedi paratoi nifer o gwestiynau, gan holi rhagor iddo, mewn ymateb i’w atebion byrlymus. Cawsom wybod sut ddechreuodd ei ddiddordeb mewn canu ac am y bobol fu’n ddylanwad mawr ar ei fywyd. Soniodd yn benodol am ddylanwad ei deulu, yn arbennig ei famgu, y diweddar Margaret Richards ac am y sylfaen cadarn cafodd yn Ysgol Sul Henllan Amgoed ac Ysgol Beca, Efailwen. Talodd deyrnged hefyd i Eilyr Thomas fu’n ei hyfforddi am gyfnod. Bu Trystan yn sôn am uchafbwyntie ei yrfa hyd yn hyn, gan gynnwys canu deuawd yng nghwmni Syr Bryn Terfel, o flaen cynulleidfa o dros 4000 o bobol. Cawsom wybod gan Trystan hefyd sut mae’n bwrw ati i ddysgu geiriau caneuon opera Eidaleg, Ffrangeg, Rwsieg ac ati – gyda chryn drafferth oedd ei ateb ffraeth!!
Bu hefyd yn sôn am yr holl dai opera mae ef eisioes wedi perfformio ynddynt, yn ogystal a’r llwyddiannau ddaeth i’w ran wrth gystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol. Dyma’n sicr roddodd yr hyder iddo ddilyn gyrfa fel canwr proffesiynol.
Dwedodd Trystan hefyd bod y ddeunaw mis dwetha wedi dangos yn glir, pa mor fregus mae bywoliaeth fel canwr proffesiynol gallu bod.
Bu hefyd yn sôn am ambell dro trwstan, yn ogystal a’i hoffter o chwarae rygbi.
Diolchwyd i Trystan am noson wych, gan Eifion Evans, ac yna cawsom fasned o gawl bendigedig gan Robert – diolch iddo am ei groeso arferol.