EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR HOELION 2018
NOS WENER, 2ail o FAWRTH 2018 am 7.30 yr hwyr
yng Ngwesty Llanina, Llanarth, SA47 0NP.
Bydd cawl ar gael ar y noson am bris rhesymol
RHAGLEN YR EISTEDDFOD
EITEMAU LLWYFAN
- Jôc
- Cân Actol “ Hunan ddewisiad “
- Sgets – Yn Meddygfa Doctor. ( Dim mwy na 5 munud).
- Bwyta 4 “ Cream Cracer “ ac yn unionsyth adrodd pennill cynta o “MAE HEN WLAD FY NHADAU”
- Côr – Cân werin (geiriau Gwenno Penygelli – islaw))
Disgwylir i bob cangen gystadlu ar bob un o’r testunau llwyfan.
Marciau: 5 pwynt am gystadlu, 3 pwynt i’r cyntaf, 2 bwynt i’r ail, 1 pwynt i’r trydydd.
EITEMAU CARTREF
- Ysgrifennu baled ddigri —‘ Y Mart ‘
- Limrig yn cynnwys y llinell ‘ Hen fenyw fach neis yw Terisa ’
- Telyneg – Heddwch
- Cartwn —— TRYMP ( Nid mwy na A4 )
- Brys neges ar y llythyren ( B ) — Nid mwy na 10 gair a nid brawddeg.
Anfoner y cyfansoddiadau erbyn y dyddiad cau, sef Dydd Gwener 23 ain o Chwefror 2018, at y beirniad: Dai Rhys Dafis (E-bost: daiandvera@gmail.com), neu bost arferol: Dai Rhys Dafis , Pendre , Rhydlewis , Llandysul , Ceredigion, SA44 5SN.
Ni dderbynnir cynigion wedi’r dyddiad cau. ( ond drwy GILDWRN ! )
AMODAU
- Ni wobrwyir oni bydd teilyngdod.
- Bydd y telerau arferol mewn grym.
- Y cystadleuwyr i ofalu am gopi i’r beirniad lle bo angen.
- Cymraeg fydd iaith yr Eisteddfod a disgwylir i iaith yr Eisteddfod fod yn weddus bob amser.
- Bydd barn pwyllgor yr Eisteddfod yn derfynol ymhob dadl.
- Y gangen fuddugol fydd yn gyfrifol am ddychwelyd y tlws i’r Eisteddfod nesaf.
- Rhaid dangos parch at y beirniad o leiaf hyd at ddiwedd yr Eisteddfod.
- Un cynnig a ganiateir gan bob cangen ar y cystadlaethau llwyfan.
- Dim ond un enillydd o bob cangen fydd yn cael pwyntiau yn yr adran Eitemau Cartref.
- Enillwyr y Goron a’r Gadair fydd yn gyfrifol am eu dychwelyd i’r Eisteddfod nesaf.
GWOBRAU
Ni ddyfernir gwobr yn yr adran Eitemau Cartref i enillydd absennol.
Gwobrwyir cadair yr Eisteddfod i enillydd y Faled ddigri a choron yr Eisteddfod i enillydd y Delyneg.
Cyflwynir tlws Cangen Beca i’r gangen â’r nifer mwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan.
Cyflwynir tlws Cangen Aber-porth i’r gangen sydd wedi cyflwyno’r eitem orau ar y llwyfan ym marn y beirniad.
Cyflwynir tlws yr Eisteddfod i’r gangen sydd wedi ennill y marciau uchaf.
Cystadleuaeth y Côr- Gwenno Penygelli
Rwy’n ddeg ar hugain oed, Roedd yno bwdin pys
Ac arna’i chwant priodi, A hwnnw ar hanner ferwi,
Geneth ysgafn droed, Y cwc wedi torri’i bys
Fel Gwenno Penygelli, A cholli’r cadach llestri.
Maen ganddi ddillad crand, Cig y maharen du
Ac mae hi’n eneth bropor, Yn wydyn yn ei gymale,
A deg punt yn y banc, Potes maip yn gry’
Ar ôl ei modryb Gaenor, A chloben o baste fale.
Di wec ffal di lal lal la, Di wec………….
Di wec ffal di lal lal la,
Di wec ffal di lal lal la la la la
Mae gennyf het Jim Cro
Yn barod i fy siwrne
A sgidie o groen llo
A gwisg o frethyn cartre.
Mae gennyf dŷ yn llawn
Yn barod i’w chroesawu
A phedair tas o fawn
A dillad ar fy ngwely
Di wec ……
Mae gennyf ddafad ddu
Yn pori ar Eryri,
Chwyaden, cath a chi,
A gwartheg lond y beudy.
Mi fedraf dasu a thoi
A chanu a dal arad,
A gweithio heb ymdroi
A thorri gwrych yn wastad
Di wec…………