Mae Eisteddfod yr Hoelion Wyth oedd i’w gynnal yng Ngwesty’r Talbot Tregaron ar nos Wener, Ebrill 3ydd wedi ei ohirio.
Y bwriad yw ail drefnu ar gyfer nos Wener, Medi 25ain – yn yr un lleoliad ac ar yr un amser.
Peidwch anfon eich cyfansoddiade i’r beirniad am y tro ond gwnewch hyn erbyn dydd Gwener, Medi 11eg.
Cofiwch ddychwelyd y bonion a’r arian raffl i drysorydd eich cangen cyn gynted a phosib os gwelwch yn dda.
Diolch,
Eurfyl Lewis ( Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth )
Eifion Evans ( Ysgrifennydd )
Nigel Vaughan ( Trysorydd )