Dyma dair englyn gwych gan dri o prif feirdd y fro, i goffau John y Graig, cymeriad hoffus iawn.
I John y Graig
A’i win a’i ffrindiau gannoedd, a’i ymroi
mor hael ym mro’i werthoedd,
hoelen with annwyl iawn oedd
ac, o hyd, y Graig ydoedd.
Ceri Wyn Jones
Y prysuraf ei lafur, – I’w fro hoff
Fe fu’n frawd mor ddifyr,
Yn gariad o dad fel dur,
Yn gymaint o graig, Emyr.
Tudur Dylan Jones
Mae craig, ac mae mor, mae cregyn, mae bae,
Mae bywyd diderfyn
Ei rod, mae ol troednodyn
Ar draeth, mae hiraeth fan hyn.
Mererid Hopwood