Eisteddfod Ffug yr Hoelion Wyth 2017
Lleoliad: Gwesty’r Talbot, Tregaron
Dyddiad: Dydd Sadwrn 11eg Mawrth 2017, Gweinyddir cawl am 7.30 yr hwyr
Arweinydd: Mr Dai Jones (Llanilar)
Beirniaid: Mr Euros Lewis, Mr Arwel Jones
RHAGLEN YR EISTEDDFOD
EITEMAU LLWYFAN
1. Jôc ( Ni chaniateir rhai anweddus!!)
2. Meimio i gan Gymreig o’ch dewis
3. Dewis o sgets neu ddeialog (cyfyngir amser y perfformiad i bum munud ar y mwyaf)
4. Stori a sain (Rhoddir stori i’r cystadleuwyr ar y noson gan y beirniad – yna un person i’w darllen a’r llall i greu synnau priodol y disgrifir yn y darlleniad)
5. Côr Susana (gweler geiriau isod)
Disgwylir i bob cangen gystadlu ar ar bob un o’r testunau llwyfan.
Marciau: 5 pwynt am gystadlu, 3 pwynt i’r cyntaf, 2 bwynt i’r ail, 1 pwynt i’r trydydd
EITEMAU CARTREF
1. Brawddeg wedi llunio ar “TWM SION CATI”
2. Limerig: Cwblhau llinellau 1,2, a 5 isod
1 ……………………………
2 …………………………….
3 Yn wir yr oedd llynedd
4 Yn brawf i’r amynedd
5 …………………………….
3. Creu tair dihareb wreiddiol, newydd sy’n berthnasol i’r oes ohoni.
4. Cerdd goffa (Testun agored)
5. Cerdd ddigri ar y testun “Wal”
Anfoner y cyfansoddiadau, (ynghyd ag enw ffug y cystadleuydd) erbyn y dyddiad cau, sef dydd Sadwrn 4edd Mawrth 2017 at y beirniad: Arwel Jones (e-bost: rocetarwel@yahoo.com)
neu bost arferol:
Arwel Jones,Garreg Lwyd, Ffordd Penglais, Aberystwyth,Ceredigion ,SY23 2EU
Ni dderbynnir cynigion wedi’r dyddiad cau.
AMODAU
1. Ni wobrwyir oni bydd teilyngdod.
2. Bydd y telerau arferol mewn grym.
3. Y cystadleuwyr i ofalu am gopi i’r beirniad lle bo angen.
4. Cymraeg fydd iaith yr Eisteddfod a disgwylir i iaith yr Eisteddfod fod yn weddus bob amser
5. Bydd barn pwyllgor yr Eisteddfod yn derfynol ymhob dadl.
6. Y gangen fuddugol fydd yn gyfrifol am ddychwelyd y tlws i’r Eisteddfod nesaf.
7. Rhai dangos parch at y beirniaid o leiaf tan ddiwedd yr Eisteddfod.
8. Un cynnig a ganiateir gan bob cangen ar y cystadleuthau llwyfan.
9. Dim ond un enillydd o bob cangen fydd yn cael pwyntiau yn yr adran Eitemau Cartref.
10.Enillwyr y Goron a’r Gadair fydd yn gyfrifol am eu dychwelyd i’r Eisteddfod nesaf
GWOBRAU
Ni ddyfernir gwobr yn yr adran Eitemau Cartref i enillydd absennol.
Gwobrwyir cadair yr Eisteddfod i enillydd y Gerdd Ddigri a choron yr Eisteddffod i enillydd y Gerdd Goffa.
Cyflwynir tlws Cangen Beca i’r gangen a’r nifer mwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan.
Cyflwynir tlws Cangen Aberporth i’r gangen sydd wedi cyflwyno’r eitem orau ar y llwyfan ym marn y beirniad.
Cyflwynir tlws yr Eisteddfod i’r gangen sydd wedi ennill y marciau uchaf.
Geiriau’r gan – SUSANA
Mae merch fach dwt a theidi iawn
Yn byw yn nymbr thri
A phan ddaw’r nos rwy’n myned draw
Am dro bach ati hi
O Susana o paid a’m gadael i,
Rwy’n dod bob nos i roddi cnoc
Ar ffenest nymbr thri
Trwy wynt a glaw mi af i’w gweld
Yn ysgon iawn fy nhrod
A galw wrth y ffenest fach
Susana rwyt ti’n dod
Rwy’n meddwl gweld ei thad cyn hir
I ofyn am ei llaw
Ond gan ei fod yn glamp o ddyn
Rwy’n gorfod cadw draw
Susana fach o bob rhyw ferch
Yw’r orau sydd yn bod
A gaf i ddweud wrth ddrws y llan
Susana rwyt ti’n dod