NOS WENER 29ain o DACHWEDD
8.00 p.m.(Yn brydlon)
Yn Nhafarn Ffostrasol
Mae’r tafarn yn gwerthu bwyd os ydych yn dymuno cyn i’r eisteddfod – rhaid cyrraedd yn gynnar os yn bwyta
EITEMAU LLWYFAN
- Jôc neu stori – testun yn agored
- Stori a Sain
- Sgets – testun yn agored
- Eitem ddigri – agored
- Côr – Milgi Milgi (geiriau ar y cefn)
EITEMAU GWAITH CARTREF
- Brawddeg ar y gair ABERAERON
- Brysneges ar y llythyren M
- Limerig yn cynnwys y llinell
“Y merched sy’n ffynnu’n y campau”
- Joc newydd – ar ffurf cwestiwn ac ateb (2 frawddeg)
- Cerdd ar unrhyw fesur – Heddwch
- Cerdd Ddigri – Y Sioe
Anfoner y Gwaith cartref erbyn y dyddiad cau 22/11/24 at y beirniad Endaf Griffiths ar e-bost endafg1994@outlook.com neu drwy’r post i:
Rhif 2 Parc Celynin, Llanpumsaint, Caerfyrddin, SA33 6BS
AMODAU
- Ni wobrwyr oni bydd teilyngdod
- Bydd y telerau arferol mewn grym
- Cymraeg fydd iaith yr Eisteddfod a disgwylir i’r iaith honno fod yn weddus
- Bydd barn yr Is-bwyllgor yn derfynol
- Y gangen fuddugol i sicrhau fod tlws yr Eistddfod ar gael i’r Eisteddfod nesaf
- Rhaid dangos parch at y Beirniaid o leiaf hyd at ddiwedd yr Eisteddfod
- Un cynnig a ganiateir gan bob cangen ar y cystadleuaethau llwyfan
- Ennillwyr y Goron a’r Gadair fydd yn gyfrifol am eu dychwelyd i’r Eisteddfod nesaf
GWOBRAU
- Ni ddyfernir gwobr yn yr Adran Gwaith cartref i ennillydd absennol
- Gwobrwyir Cadair yr Eisteddfod i ennillydd y Gerdd a’r Goron i ennillydd y Gerdd Ddigri
- Cyflwynwir Tlws Cangen Beca i’r gangen a’r nifer mwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan.
- Cyflwynir Tlws Cangen Aberporth i’r gangen sydd wedi cyflwyno’r eitem orau ar y llwyfan yn marn y Beirniad
- Cyflwynir Tlws Coffa Huw ‘Bach’ Griffiths i’r Côr buddugol
- Cyflwynir Tlws yr Eisteddfod i’r gangen sydd wedi ennill y marciau uchaf
Milgi, milgi
Ar ben y bryn mae sgwarnog fach,
ar hyd y nos mae’n pori
A’i chefen brith a’i bola gwyn
yn hidio dim am filgi
Cytgan:
Milgi milgi milgi milgi,
rhowch fwy o fwyd i’r milgi,
Milgi milgi milgi milgi,
rhowch fwy o fwyd i’r milgi.
Cytgan
Ac wedi rhedeg tipyn bach,
mae’n rhedeg mor ofnadwy
Ac un glust lan a’r llall i lawr,
yn dweud ffarwel i’r milgi.
(Cytgan)
‘Rôl rhedeg sbel mae’r milgi chwim
yn teimlo’i fod e’n blino
A gweler ef yn swp ar lawr
mewn poenau mawr yn gwingo.
(Cytgan)
Ond dal i fynd wna’r sgwarnog fach
a throi yn ôl i wenu
Gan sboncio’n heini dros y bryn
yn dweud ffarwel i’r milgi.
(Cytgan)