Skip to content

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

    HOELION WYTH 2026

    NOS WENER 27ain o Fawrth 2026

    7.00 p.m.(Yn brydlon)

    Yn Nhafarn Ffostrasol

    Mae’r tafarn yn gwerthu bwyd os ydych yn dymuno cyn i’r eisteddfod – rhaid cyrraedd yn gynnar os yn bwyta

    EITEMAU LLWYFAN

    1. Jôc neu stori weddus – testun yn agored
    2. Stori a Stumie
    3. Sgets – testun yn agored
    4. Eitem ddigri – agored
    5. Côr – Lleucu Llwyd (geiriau ar y cefn)

    EITEMAU GWAITH CARTREF

    1. Brawddeg ar y gair CARREG LAS
    2. Brysneges ar y llythyren P
    3. Limerig yn cynnwys y llinell

    “Ar fore dydd Calan eleni”

    • Joc newydd – ar ffurf cwestiwn ac ateb
    • Cerdd ar unrhyw fesur  – Colli neu Bwlch
    • Cerdd Ddigri – Arall gyfeirio

    Anfoner y Gwaith cartref erbyn y dyddiad cau 18/3/26 at y beirniaid Dwynwen + Owen Llywelyn ar e-bost  neu drwy’r post i:  Pant y Gronw, Felinfach, Dyffryn Aeron, Ceredigion  SA48 8BQ

    Dwyns.ll@gmail.com

    AMODAU

    1. Ni wobrwyr oni bydd teilyngdod
    2. Bydd y telerau arferol mewn grym
    3. Cymraeg fydd iaith yr Eisteddfod a disgwylir i’r iaith honno fod yn weddus
    4. Bydd barn yr Is-bwyllgor yn derfynol
    5. Y gangen fuddugol i sicrhau fod tlws yr Eistddfod ar gael i’r Eisteddfod nesaf
    6. Rhaid dangos parch at y Beirniaid o leiaf hyd at ddiwedd yr Eisteddfod
    7. Un cynnig a ganiateir gan bob cangen ar y cystadleuaethau llwyfan
    8. Enillwyr pob tlws eisteddfodol fydd yn gyfrifol am eu dychwelyd i’r Eisteddfod nesaf

    GWOBRAU

    1. Ni ddyfernir gwobr yn yr Adran Gwaith cartref i enillydd absennol
    2. Gwobrwyir Cadair yr Eisteddfod i enillydd y Gerdd a’r Goron i enillydd y Gerdd Ddigri
    3. Cyflwynwir Tlws Cangen Beca i’r gangen a’r nifer mwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan.
    4. Cyflwynir Tlws Cangen Aberporth i’r gangen sydd wedi cyflwyno’r eitem orau ar y llwyfan yn marn y Beirniad
    5. Cyflwynir Tlws Coffa Huw ‘Bach’ Griffiths i’r Côr buddugol
    6. Cyflwynir Tlws yr Eisteddfod i’r gangen sydd wedi ennill y marciau uchaf

    Lleucu Llwyd

    Cytgan:
    Lleucu Llwyd, rwyt ti’n hardd,
    Lleucu Llwyd rwyt ti’n werth y byd i mi.
    Lleucu Llwyd, rwyt ti’n angel,
    Lleucu Llwyd rwy’n dy garu di o hyd.

    O! rwy’n cofio cwrdd â thi
    Ac rwy’n cofio’r glaw,
    Ydy’r eos yn y goedwig?
    Ydy’r blodau yn y maes gerllaw?
    Yn yr afon mae cyfrinach
    ein cusan cynta’ ni,
    Ac mae’r blodau yn y goedwig
    yn sibrwd dy enw di.

    (Cytgan)

    O! mae’r oriau mân yn pasio
    fel eiliad ar adain y gwynt,
    A gorweddaf ar fy ngwely,
    efallai daw’r freuddwyd yn gynt,
    O! mae rhywun yn agosáu,
    mi glywaf wichian y glwyd,
    Ac rwy’n nabod swn yr esgid –
    mae’n perthyn i Lleucu Llwyd.

    (Cytgan)