Ar fore braf ddydd Sadwrn, Mai 9fed aeth criw ohonom ar ein taith flynyddol. Stopion ni ger y wal enwog ‘Cofiwch Dryweryn’ i’r Gogledd o Lanrhystud i dynnu llun, cyn symud ymlaen i gyfeiriad Aberystwyth a threulio rhai oriau yn y Llyfrgell Genedlaethol yno. Yn anffodus nid oedd staff ar gael i’n tywys o gwmpas ond roedd arddangosfa ac amryw o stondinau yn ymwneud â hanes teulu ac hel achau.
Wedi cinio, ymlaen wedyn i gyfeiriad y dwyrain drwy bentrefi Moria, Capel Seion a Nebo i Bontarfynach gydag ysblander hyfryd dyffryn Rheidol i’w weld i gyfeiriad y gogledd. Wrth adael Aberystwyth roedd trên bach dyffryn Rheidol hefyd yn gadael y dre a chafwyd cip olwg o fwg ei stem wrth iddo ddringo’r dyffryn. Treuliwyd ychydig o amser ym Mhontarfynach gan edmygu’r ceunant o’r bont a mwynhau hufen iâ blasus.
Parhawyd ar y daith drwy Bont-rhyd-y-groes, Ysbyty Ystwyth, Ffair Rhos a Phontrhydfendigaid ac i gyfeiriad Ystrad Fflur. Yno bu Charles Arch yn ein tywys o gwmpas adfeilion yr abaty, yr eglwys a’r fynwent a’r ffermdy lle ei fagwyd. Diolchwyd iddo am y wybodaeth a’r storïau diddorol.
Wedi pasio Cors Caron cyrhaeddom ganolbwynt Tregaron sef tafarn y Talbot lle’r oedd rhaid aros am ychydig i dorri syched a defnyddio’r tai bach! Wedyn troi am adre gan aros yn nhafarn ‘New Inn’ yn Llanddewi Brefi i gael plated dda o swper blasus.
Diolch yn fawr i Eurfyl am drefnu’r daith ac i Eifion am yrru’r bws.