Ar y 9fed o Fai, i orffen y tymor eleni, aethom ar daith ddirgel a drefnwyd fel arfer gan Eurfyl Lewis, ein swyddog adloniant. Yn anffodus methodd Eurfyl fod yn bresennol ar y noson a chymerwyd at y trefniadau gan Ken ac Eifion. Teithiom ar fws Midway i gyfeiriad y de o gaffi Beca ac wedyn ar yr hewl newydd o Benblewin i gyfeiriad Hendy-gwyn ar Dâf a chyrraedd Penyrheol, Ciffyg lle mae pencadlys Bysiau Cwm Tâf.
Yno i’n croesawu oedd un o gyfarwyddwyr y cwmni bysiau – yr adnabyddus a’r deryn Clive Edwards. Cawsom ein tywys i’r swyddfa lle roedd Joseph, ei fab yn ein disgwyl hefyd. Eglurodd Clive ychydig o hanes y busnes ers iddo ei sefydlu yn 1990. Cafodd fenthyciad di-log gan Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru ac ychydig o fenthyciad wrth ei dad-cu, a dyma brynu ei fws cyntaf ar gyfer teithiau plant ysgol. Trwy lawer o fenter, hyder a chefnogaeth banc Nat West, mae busnes Clive a Heather wedi datblygu’n helaeth. Un o’r datblygiadau mwyaf oedd prynu safle’r pencadlys ym Mhenyrheol.
Yn 2016 aeth cwmni bysiau mawr Silcox o Dde Sir Benfro i ddwylo’r gweinyddwyr a daeth Bysiau Cwm Taf i’r adwy drwy gymryd sawl taith gwasanaeth a theithiau plant ysgol. Roedd hyn yn golygu etifeddu lleoliad yn Noc Penfro hefyd sy’n fan gwaith i ddau berson swyddfa a gyrrwyr y gwasanaethau. I’w alluogi i wneud hyn gorfu i Clive brynu sawl bws dros gyfnod o benwythnos cyn dechrau’r gwasanaethau.
Bu cyfnod y Covid yn anodd i’r cwmni ond bu cyfle i ddatblygu iard y pencadlys bryd hynny ac erbyn hyn mae sawl sied fawr ac ardal goncrit eang i’r bysus barcio. Mae dros 50 o fysus gan y cwmni, yn amrywio o fysiau mini, midi, rhai ar gyfer gwasanaethau a rhai ar gyfer y teithiau undydd a gwyliau.
Tra yn y swyddfa dangosodd Joseph y system gyfrifiadurol sy’n tracio’r bysiau gwasanaeth. Mae modd gweld lle mae pob bws ar y sgrin fawr a hefyd gweld sawl tocyn sy’n cael ei ddosbarthu ym mhob arosfan bws. Mae’r holl ddata yn gorfod bod ar gael i swyddogion Trafnidiaeth Cymru. Mae Clive yn ymfalchïo bod ei wasanaethau trafnidiaeth Cymru wedi cael sgôr effeithlonrwydd o 99.8%. Tipyn o gamp!
Ar ddiwedd ein hyweliad tywyswyd ni o gwmpas yr ardal allanol lle gwelsom rai o’r bysiau, offer codi cadair olwyn mewn i fws, y garej a’r peiriant golchi bysiau. Esboniodd Clive y bydd hi’n ofynnol i bob bws gwasanaeth a theithiau ysgolion gynnwys offer codi cadair olwyn yn y dyfodol ac mae tipyn i’w wneud cyn fod hyn yn ymarferol bosib. Mae addasu bws i dderbyn yr offer yma yn costio tua £40,000.
Diolchwyd i Clive gan ein Cadeirydd Eifion Evans cyn i ni deithio ymlaen i gael swper blasus yn nhafarn y Fox & Hounds, Bancyfelin.

Clive yn adrodd ychydig o hanes y cwmni ac ambell jôc!!

Rhai o’r bysus adre ar y iard

Ydy’r hoist ma digon cryf Clive?

Criw y daith gyda Clive a’i fab Joseph i’r dde o’r canol