I orffen tymor 2014-15 roedd Eurfyl a Wyn wedi trefnu taith ddirgel ar ein rhan ar Nos Wener, Mai 8fed. Daeth bws o Faenclochog gydag Eifion wrth y llyw i’n casglu am 5.45 o Gaffi Beca. Teithion ni i gyfeiriad Penblewin gan gasglu mwy o aelodau ar y ffordd cyn troi i gyfeiriad Caerfyrddin. Fe wnaeth un ddafad golledig ddal lan â ni yn Hendygwyn ar Daf! Ar gyrion Bancyfelin fe wnaeth Eifion droi y bws am gyfeiriad Llangynog ac erbyn hynny roedd pawb wedi dyfalu ble roeddwn ni’n mynd. Croesawyd ni i Fferm Cwrt Malle gan Howell a Susan Richards a gan ei bod yn noson gymylog a llaith, rhoddwyd cyflwyniad i ni gan Howell yn yr ysgubor cyn ein tywys o amgylch y fferm.
Dywedodd Howell ychydig o hanes ei deulu cyn iddynt brynu fferm Cwrt Malle. Prynwyd y fferm 200 erw un ar ddeg mlynedd yn ôl. Ers hynny maent wedi prynu 5 o ffermydd cyfagos ac erbyn hyn maent berchen ar 2250 erw. Esboniodd fod 2400 o wartheg godro ganddynt – y rhan fwyaf ohonynt yn Holsteins. Ar hyn o bryd mae 2100 yn cael ei godro dair gwaith y dydd. Eglurodd fod tri deg o weithwyr ar y fferm gyda rhai ohonynt yn dod o wledydd dwyrain Ewrop. Nododd bod cyflogau’r gweithwyr yn dri chwarter miliwn o bunnoedd y flwyddyn a bod tair tancer fawr Mansel Davies yn casglu llaeth o’r fferm bob dydd, gyda dwy o’r rhain yn mynd â’r llaeth i Lundain. Dywedodd bod ffermydd o’r fath raddfa yn aml iawn yn cael eu beirniadu ar gam a phwysleisiodd bod iechyd a lles y fuches yn bwysig iawn iddo. ‘Sneb ar y fferm yn cael defnyddio pren i daro unrhyw fuwch. Mae canran o wartheg cloff neu wartheg sydd angen triniaeth gwrth fiotig ar y fferm hon yn llawer iselach na chyfartaledd y wlad yn gyffredinol, sydd yn arwydd bod y gwartheg yn cael gofal da. Cyn ein tywys o gwmpas eglurodd bod yr holl fuches godro yn cael ei chadw ar iard galed a bod cysgod ar gael iddynt yn y siediau ciwbicl. Nid ydynt yn mynd allan i’r caeau o gwbwl.
Tywyswyd ni o gwmpas gan Howell, Susan, Steffan a’i gariad Lorna. Gwelsom bod y gwartheg yn gorwedd ar wely o dywod. Mae’n debyg bod 120 tunnell o dywod yn cael ei ddefnyddio yn fisol. Roedd y gwartheg yn edrych yn hollol iach ac yn hapus eu byd, yn ddof iawn ac yn amlwg yn hollol gyfforddus ein bod yn cerdded yn eu mysg. Yna tywyswyd ni i sied y gwartheg beichiog lle mae’r lloi yn cael eu geni. Mae’r gwartheg yno yn cael gwely gwellt ac yn cael deiet gwahanol am y cyfnod y maent yno. Mae’r lloi bach benywaidd yn cael eu cadw ar y fferm am bump diwrnod cyn eu symud i un o’r ffermydd eraill, tra bod y lloi gwryw yn mynd i’r lladd-dy pan yn wythnos oed.
I orffen y daith o gwmpas y fferm, dangoswyd y parlwr godro mecanyddol. Roedd hwn yn barlwr oedd yn cylchdroi wrth i chwech deg o wartheg gael eu godro ar yr un pryd. Roedd yn cylchdroi ar gyflymder o un cylch mewn wyth munud. Yn ystod yr amser hyn, roedd mwyafrif o’r gwartheg wedi eu godro yn llwyr ond roedd ambell un yn mynd o gwmpas am dro bach arall. Roedd pedwar person yn gweithio ar y broses godro. Roedd un y tywys y fuwch mewn i’r parlwr, un arall y golchi y tethau ac un arall yn gosod yr unedau godro. Ar ddiwedd y cylch roedd person arall yn sieco a oedd y fuwch wedi gorffen godro. Pan oedd y fuwch wedi gorffen godro roedd iet fach yn agor ac roedd chwistrelliad o ddŵr yn saethu at y fuwch yn ei procio i gerdded yn ei ôl allan o’r parlwr godro. Mae’r rhan fwyaf o’r gwartheg yn gwisgo colerau sy’n cynnwys sensor electronig er mwyn monitro eu symudiadau a.y.b. Mae’r wybodaeth i gyd yn cael ei drosglwyddo i’r cyfrifiadur sy’n storio’r data. Mae holl fwyd sy’n cael ei roi i’r gwartheg yn cael ei gymysgu a’i bwyso’n fanwl gywir ac mae’r gymysgedd yn cael ei addasu ar gyfer gwahanol gyfnodau ym mywyd y fuwch.
Ar ôl gwrando ar Howell yn siarad a cherdded o gwmpas y fferm, roedd yn amlwg iawn bod llawer o wyddoniaeth a thechnoleg yn cael ei ddefnyddio i ffermio ar y raddfa yma. Ni allaf ddychmygu y gwaith gweinyddol sydd ynghlwm â’r holl broses ond dw i’n siwr ei fod yn faich mawr ac yn hunllefus i’w weinyddu ar adegau!
Cyn gadael am y bws darparwyd dŵr ar ein cyfer i olchi ein hesgidiau a phapur i’w sychu. Aethom wedyn i Dafarn Pantydderwen, Llangain lle ymunodd Howell, Susan, Steffan a Lorna â ni i gael swper gyda’n gilydd. Diolchwyd i’r teulu Richards gan Huw Griffiths ac ategwyd gan y Cadeirydd Nigel Vaughan. Hoffai Aelodau’r Hoelion ddiolch yn arbennig i Eurfyl a Wyn am drefnu’r daith ac i Eifion am yrru’r bws.