Cafwyd noson wefreiddiol tuhwnt yn yr ail gyfarfod o’r tymor. Y gwestai oedd ‘un ohonom ni’ sef Wyn Evans (Wyn Tegryn) a fu yn adrodd taith ei fywyd, yr holl hanes yn sôn am y modd y gwnaeth yr afiechyd erchyll ‘Alcoholiaeth’ afael mor dynn ynddo. Yr oedd ei araith yn syfrdanol a dweud y lleiaf ac ‘roedd yr holl aelodau yn gwrando’n astud ar ei brofiadau enfawr, ar un adeg. O’r diwedd, ynghanol yr holl dywyllwch, daeth golau trwy fod rhywun yn edrych ar ei ôl. Braf gweld ei wellhad a’i ymdrech gyson ar gyfer iachad pobol sydd yn yr un cyflwr a fu ef ynddo. Diolchwyd iddo ar ran y gangen, gan ein Cadeirydd, Rob James. Dal ati, Wyn!