Skip to content

Tachwedd 2024

    Cynhaliwyd  cyfarfod mis Tachwedd, fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi Hendy-gwyn,  Ein siaradwyr gwadd oedd Ann a Kenvin Morris o Faenclochog ac estynnwyd croeso cynnes iddynt gan y cadeirydd Claude James.  Daw Ann yn wreiddiol o Bontypridd a Kenvin o Twffton.  Mae’r ddau yn weithgar y neu cymuned ac yn cefnogi nifer o fudiadau ac elusennau.  Cyn ymddeol, roedd Ann yn athrawes ac yn bennaeth yn ysgolion Sir Benfro.  Adeiladwr oedd Kenvin gyda diddordeb mawr mewn garddio.

    Gyda Ann yn siarad a Kenvin yn rhoi lluniau ar sgrin, cawsom hanes beth oedd wedi dylanwadu are u bywyd.  Pan yn blentyn, roedd Ann yn byw ym Mhontypridd ac yn ymweld â theulu yn Twffton yn rheolaidd ac yma cyfarfu a’I gŵr Kenvin.

    Cafwyd hanes diddorol o’r amser bu Ann yn tyfu I fyny ym Mhontypridd gan ddod fewn a hanes tychineb glofaol Pwll Glo Cilfynydd pan gollodd 281 o weithwyr eu bywydau. Hefyd cafwyd hanes adeiladu pont unigryw Pontypridd ar gost o £500!! a hefyd hanes Dr William Price a oedd y cyntaf i losgi corff dynol.

    Dechrau a gorffen y cyflwyniad hynod o ddiddorol yn Twffton a chawsom noson hwylus dros ben. Diolchwyd i’r ddau yn wresog gan Mel Jenkins.