Yng nghyfarfod mis Tachwedd, y siaradwr gwâdd oedd Dafydd Evans – yn wreiddiol o Feidrim ond yn awr yn byw gyda’i briod rhwng Meidrim a Threlech. Mae’n gyn-athro gan orffen ei yrfa fel Pennaeth Ysgol Gynradd Cwmbach – yr olaf cyn i’r ysgol gau.
‘Dawnsio Gwerin’oedd pwnc ei gyflwyniad. Mae’n un o’r aelodau cyntaf o’r grŵp ‘Dawnswyr Talog’ ac fe dalodd deyrnged i Eirlys a Mansel Phillips, ac Eirwen Davies am ei sefydlu yn 1979.
Yn y dechreuad, cynnal twmpathau dawns ac ambell arddangosfa oedd ar y calendr, ond yn dilyn llwyddiant ar hyd y blynyddoedd, mae pawb yn gwybod amdanynt fel un o’r grwpiau dawnsio anhygoel Cymru.
Mae Dafydd wedi teithio’n helaeth gyda’r grŵp gan ddawnsio mewn llawer gwlad yn Ewrop a thu hwnt, a thrwy ddawnsio cyfarfu â’i briod Bobi, a phriodi yn 1985.
Mae Dawnswyr Talog wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a Cherdd Dant.
Mae Dafydd a’i briod gydag aelodau o grwpiau Dawnsio Gwerin eraill wedi sefydlu Grŵp o dan yr enw ‘Parti Tipyn o Bopeth’ – hyn er mwyn cael mynd i wahanol wyliau dawnsio gan gynnwys yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Mae Dafydd a Bobi wedi gwneud ffrindiau oes mewn llawer o wledydd trwy ddawnsio gwerin ac wedi mwynhau bob munud.
Cafwyd cyflwyniad diddorol yn llawn hiwmor, a hyn gyda chymorth lluniau ar y sgrin. Diolchwyd iddo ar ran pawb, gan Glyn Evans.