Y gŵr gwadd yng nghyfarfod mis Tachwedd oedd Ian Gravell o Gwmni Ceir Gravells sydd a’u pencadlys yng Nghydweli. Ian yw’r trydydd cenhedlaeth o’r teulu i fod yn y busnes. Ar ôl addysg yng Ngholeg Llanymddyfri, yr unig beth oedd Ian am wneud oedd bod yn gogydd, syrfio a chwarae gitar!
Dechreuodd eu ddatcu, y diweddar Tom Gravell a’i briod, y busnes yng Nghydweli drwy brynu lori ac agor chwarel. Yn ystod y blynyddoedd, ehangwyd y busnes cludiant a’i werthu.
Agorodd garej gwerthu ceir a chafwyd ‘Franchise’ i werthu ceir Renault; erbyn hyn mae ‘Gravell’s’ yn garej Renault hynaf yn y Deyrnas Unedig.
Daeth tad Ian – David Gravell, mewn i’r busnes yn 1959 ac er nad yw’n mwynhau iechyd gorau, mae’n dal ynghlwm â’r busnes.
Dath Ian mewn i’r busnes yn yr 80’au ac erbyn hyn yn Gyfarwyddwr a gofal cangen y busnes sy’n gwerthu ceir KIA yn Arberth.
Cafwyd noson ddiddorol ganddo, yn egluro sut dechreuodd y busnes o ddim a datblygu i ble mae heddiw – Cwmni sy’n cyflogi tua 110 o weithwyr dros amryw o safleoedd.
Mae’n rhaid diolch i’r Cwmni yma am eu cefnogaeth i ddiwylliant Cymru. Mae hyn yn amlwg yn y ffordd maent yn noddi Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn, yn ogystal â rhoi nawdd a chefnogaeth i fudiadau ac elusennau lleol. Diolchwyd y gynnes iddo, gan Wyn Evans.