Cynhaliwyd trydydd cyfarfod y tymor o Hoelion Wyth cangen Beca yng nghaffi Beca, Efailwen ar nos Fercher, Tachwedd 28ain. Cafwyd gair o groeso gan y cadeirydd Lynn Howells cyn iddo groesawu gwyr gwadd y noson sef Peter Lewis a Nigel Vaughan, dau o aelodau’r gangen. Bu’r ddau yn dangos DVD “The Kiwi Country” sef ffilm yn dangos golygfeydd godidog o Ynys y Gogledd a’r De o Seland Newydd. Ymunodd Eurfyl a hwy’n hwyrach a cafwyd hanes difyr o daith y tri i Seland Newydd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn Hydref 2011. Cafwyd noson ddiddorol iawn yn eu cwmni a diolchwyd iddynt gan Huw Griffithss. Diolch i Robert am weini cawl blasus i ni yn ol ei arfer – hyfryd iawn!