Skip to content

Rhagfyr 2024

    Croesawyd ein gŵr gwadd sef D Glan Rees i’r cyfarfod, Nos Iau, 5ed o Ragfyr gan ein Cadeirydd Claude James. Trwy air a llun eglurodd Glan iddo ef a’i dîm, drwy ymchwil gofalus, ddarganfod pwysigrwydd ac effaith asbirin i osgoi clefyd y gallon.  Gwelwyd bod y cyffur yn atal un o gynhwysion y gwaed, y platelets rhag glynu Wrth ei gilydd i ffurfio clot a fedr symud a chreu trawiad ar y gallon.  Darganfyddiad sydd wedi diogelu bywyd llawer ohonom.

    Mae Glan yn dal yn brysur er ei fod wedi ymddeol.  Mae’n ymddiriedolwr o’r St Davids Medical Foundation ym Mhrifysgol Feddygol Abertawe sydd yn cefnogi ymchwil arloesol a hefyd mae’n cael pleser yn mentora myfyrwyr ymchwil y neu astudiaethau.

    Cawsom noson arbennig, difyr ac addysgiadol yn ei gwmni a diolchwyd i Glan yn wresog gan Ithel Parri Roberts.