Yng nghyfarfod mis Rhagfyr croesawyd y wraig wâdd, sef Margaret Titterton, i annerch yr aelodau. Merch o Hendygwyn yw Margaret, wedi cael ei haddysg yn Ysgol Gynradd y dref ac yn yr Ysgol Ramadeg.
Er fod ei thad, y diweddar George Blethyn, am iddi fod yn athrawes, ei diddordeb erioed oedd gweithio yn y cyfryngau. Penderfynodd ysgrifennu i’r BBC a gofyn a oedd swydd ar gael! Cafodd ateb cadarnhaol a dechreuodd yn yr Adran Newyddion. Mewn ychydig amser gofynnwyd iddi fynd i weithio yn yr Adran Chwaraeon a Mabolgampau, a iddi hi roedd hyn yn ddelfrydol oherwydd ei diddordeb yn y maes. Am flynyddoedd wedyn bu’n gynhyrchydd rhaglenni chwaraeon gan weithio gyda mawrion y byd sylwebi – a hynny ar draws y byd.

Yn dilyn salwch ei mab, penderfynodd adael y BBC a bu’n gweithio wedyn gyda gwahanol elusenau, cyn ymddeol i Ddoc Penfro.
Cafwyd cyflwyniad diddorol iawn a diolchwyd iddi gan John Arfon.