Skip to content

Medi 24 Cors Caron – Tegwen Morris MyW

    Dyma ddechrau bendigedig i dymor 2024/25 cangen Cors Caron. Ein gwestai oedd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr.

    Clywsom am fywyd Tegwen cyn iddi ymgymryd â’i swydd gyda Merched y Wawr a hanes ei magwraeth gyda Dai ei thad ar fferm yn Sir Gâr. Aeth ymlaen i ddisgrifio rôl y mudiad fel ymgyrchydd dylanwadol dros hawliau merched a diolgeli cymunedau gweldig. Yn ogystal â hyn mae’r mudiad yn trefnu arywiol weithgareddau a digwyddiadau o fewn dalgylch ein cangen a thrwy Gymru benbaladr. Cafwyd cyfle hefyd i gwrdd trwy’r sleids â’r cymeriadau di-ri sydd yn aelodau o MyW.