Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor yng ngwesty’r Tâf, Hendygwyn ar nos Iau, Medi’r 4ydd. Dyma’r tro cyntaf i’r gangen gwrdd yma ar ôl cwrdd am flynyddoedd maith yn lolfa’r Clwb Rygbi, a oedd ddim yn addas mwyach. Mae tarian y gangen wedi ei gosod ar fur y lleoliad newydd.
Croesawyd yr aeodau a ddaeth ynghyd gan Claude James ac fe wnaeth longyfarch Dewi a Pam ar ddathlu eu Priodas Ddiemwnt ac hefyd Wyn a Meirwen ar ddathlu eu Priodas Aur. Cydymdeimlwyd â Claude ar farwolaeth ei briod Lynnette ar ddechrau’r haf. Braf oedd gweld Ithel a Trefor ar ôl iddynt dreulio peth amser yn yr ysbyty yn ddiweddar.
Cynhaliwyd ein cyfarfod blynddol a dyma’r swyddogion am y flwyddyn:
Cadeirydd – Claude James; Is-gadeirydd – Ithel Parri-Roberts; Ysgrifennydd – Verian Williams; Trysorydd – Glyn Evans; Trefnwr adloniant – Mel Jenkins.
Yn dilyn, estynnwyd croeso i’n siaradwr gwâdd sef Robert Jones o Glunderwen. O ardal Login yn wreiddiol a chafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Hendygwyn. Hyfforddwyd fel athro gwaith coed a bu am flynyddoedd yn dysgu yn Ysgol Preseli. Cafodd yr anrhydedd o ddylunio a chreu cadair Eisteddfod Genedlaethol Tŷ Ddewi. Mae wedi ymddeol ond mae galw mawr am ei waith yn cynyrchu gwrthrychau fel llwyau caru ayyb.
Pwnc y noson oedd ei waith yn cadw gwenyn. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn natur a hynny oddi er yn blentyn. Yn 12 oed prynodd 5 cwch, yn 1981 roedd ganddo 44 ac erbyn hyn mae ganddo 200! Mae yn arbennigwr o fri gyda pharch mawr iddo wrth bawb yn y diwydiant a mae yn beirniadau mewn sioeau dros y wlad. Mae’n cynhyrchu tua 5 tunell o fêl bob blwyddyn ac yn gwerthu’r cyfan.
Dywedodd fod ffermio yn dibynnu ar wenyn i beillio planhigion ac mae’r wenynen frodorol yn ffynnu yn yr hinsawdd hon yn well nag unrhyw un arall. Gall Robert gerdded o amgylch gwenynfa o 50 neu fwy o gychod gwenyn a dewis y rhai puraf drwy’r ffordd y maent yn ymddwyn.
Noson diddorol dros ben a diolchwyd i Robert gan Glyn Evans.
Bydd y cafarfod nesaf ar nos Iau, Hydref 2il ac mae croeso i aelodau newydd.