Skip to content

Medi 2024

    Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor yn Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Croesawodd y Cadeirydd, Claude James, pawb a oedd yn bresennol ar ôl seibiant yr haf a chafwyd munud o dawelwch i gofio’r diweddar Ronnie Howells, cymeriad hoffus a fu’n aelod ffyddlon am flynyddoedd maith.

    Dymunwyd yn dda i Tegwyn Williams a’i briod Margo sydd wedi ymgartrefi yn Llanbed a hefyd i Cynwyl Davies ac Eilir sydd wedi symud i Gaerdydd i fyw.
    Ail-etholwyd y swyddogion i gyd ar gyfer y tymor.

    Trist oedd clywed am farwolaeth John Davies, neu John y Graig fel ei adweinir gan bawb. Ef oedd un o sylfaenwyr mudiad yr Hoelion Wyth a chydymdeimlwyd gyda’i deulu yn ei colled.

    Ein siaradwyr gwadd oedd Calfin Griffiths a’i ffrind Iwan Evans, dau o aelodau cangen Sion Cwilt. Roedd Calfin wedi bod gyda ni o’r blaen pryd bu’n siarad am adeiladu a rhwyfo cwrwglau ar afonydd Sir Aberteifi. Tro yma, rhanwyd y noson yn ddwy ran gan ddechrau gyda arddangodfa o offer a ddefnyddiwyd amser maith yn ôl, a’r gamp a roddwyd i ni oedd dyfalu sut oeddynt yn cael eu defnyddio.
    Yn yr ail ran cawsom farddoniaeth ac ambell gân gan y ddau ac hefyd bu Iwan yn chwarae’r ‘acordian’, offeryn mae’n arbenigo ynddo. Noson hwylus dros ben a diolchwyd iddo gan Glyn Evans.