Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor ar Nos Iau, Medi 1af yn
Lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn.
Y siaradwr gwadd oedd un o’r aelodau, sef Tegwyn Williams o
San Cler.
Bu Tegwyn ar ei wyliau yn America gan ymweld â nifer o daleithiau.
Dewisodd ugain o luniau o’r holl oedd wedi ei dynnu
a thrwy gyfrwng y rhain, bu’n son am yr hyn a dynodd ei sylw
fwyaf. Cafwyd golwg ar Chicago, New Orleans, Memphis a
Missisipi a disgrifiodd Tegwyn yr hyn oedd wedi gweld yn y
taleithiau yma.
Bu’n gyflwyniad diddorol dros ben a diolchwyd i Tegwyn gan
Mel Jenkins.