Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tymor, fel arfer, yn Lolfa’r Clwb Rygbi.
Croesawodd y cadeirydd Claude James y gŵr gwadd sef Y Parchg. Peter Cutts, Gweinidog gyda’r Bedyddwyr dros eglwysi Tabernacl, Caerfyrddin; Bethania, Talog a Noddfa, Foelcwan.
Ei destun oedd ‘Fy Mywyd I’ a rhoddodd anerchiad yn olrhain hanes ei fywyd o’i blentyndod i’r presennol.
Ganwyd Peter mewn pentref bach yn Swydd Caerwrangon a bu’n mynychu capel y Bedyddwyr yno. Aeth ymlaen i fod yn athro gan ddysgu plant ag anableddd. Cyfarfu ei briod, Lyn – Cymraeg o Borthaethwy, Sir Fôn; mae ganddynt dri o blant.
Cafodd yr awydd i ddysgu Cymraeg a gwneud hynny ei hunan drwy wrando ar Radio Cymru, darllen ayyb. Ar y pryd, roedd yn mynychu capel Bedyddwyr mawr yn Handsworth a chafodd gefnogaeth ei gapel, yn ariannol, yn ystod ei hyfforddiant.
Wedi gorffen yr hyfforddiant, ordeiniwyd ef yn weinidog ar ei gapel ei hun a bu yno am un-ar-ddeg o flynyddoedd.
Cafodd alwad i Tonteg, Pontypridd – eglwys hollol wahanol a bu yno nes iddo gael galwad i Sir Gaerfyrddin.
Cafwyd anerchiad diddorol iawn. Canmolwyd ef am ddysgu ac am safon ei Gymraeg. Diolchwyd iddo gan Ithel Parri-Roberts.