Fel arfer cynhaliwyd cyfarfod mis Mawrth yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Croesawyd pawb gan y cadeirydd Mr Claude James. Yr oedd yn braf cael cyfarfod i ddathlu a chofio bywyd ein nawddsant, Dewi. I ddechrau eisteddodd pawb i lawr i fwynhau cawl bendigedig wedi ei baratoi gan staff y Clwb Rygbi. Wedi bawb orffen bowlen neu ddwy o’r cawl, diolchwyd am y wledd gan y cadeirydd.
Yn dilyn, croesawodd a chyflwynodd y siaradwraig wadd, sef Elsa Davies Williams. Mae Elsa yn rhannu ei hamser rhwng ei chartref ym Mancyfelin a’r Ysgwrn, Trawsfynydd – cartref bardd enwog y Gadair Ddu, sef Hedd Wyn. Mae’r Ysgwrn a’r tir o gwmpas, ers 2012, yn eiddo i Barc Cenedlaethol Eryri sy’n diogelu’r safle i’r cenhedloedd a ddaw.
Cawsom yr hanes gan Elsa fel iddi gwrdd â Gerald Williams a fu’n byw a gwarchod yr Ysgwrn hyd ei farwolaeth. Roedd Elsa heb fod yn yr Ysgwrn erioed a phenderfynodd fynd yno am dro. Wedi cyrraedd yr Ysgwrn cafodd sgwrs a chroeso yn y tŷ gan Gerald Williams. Aeth yn ôl yno ddwywaith neu dair ac yn ei geiriau ei hunan, syrthiasant mewn cariad a phriodi ac mae’r gweddill yn hanes!
Bu’n helpu Gerald yn cyfarch a siarad a thwristiad a’i tywys o amgylch y tŷ ac mae’n dal i wneud hynny yn achlysurol. Bu farw Gerald yn 2021 a chafodd Elsa lythyr personol o gydymdeimlad wrth y Tywysog Charles (ar y pryd) a fu’n ymweld â’r Ysgwrn. Roedd ganddi lun o’r ymweliad hwnnw yn ogystal â’r llythyr oedd wedi ei fframio. Bu hefyd yn dangos amryw o luniau eraill o deulu Hedd Wyn. Noson hynod o ddifyr a diolchwyd i Elsa ar ran pawb gan John Arfon.