Cynhaliwyd cyfarfod mis Mawrth, fel arfer, yn lolfa Clwb Rygbi Hendygwyn. Ein siaradwr gwâdd oedd Calfin Griffiths o Lanfihangel ar Arth, yn aelod o gangen Sion Cwilt ac yn un o Hoelion Wyth mudiad yr Hoelion Wyth. Mae erbyn hyn wedi ymddeol o’i waith fel llinellwr gyda ‘Western Power’ ac yn y cyfamser mae wedi ysgrifennu llyfr ‘Trydaneiddio Dyffryn Teifi a’r Fro 1914 – 2017’.
Hanes y cwrwgl oedd pwnc ei anerchiad sydd o ddiddordeb mawr iddo. Cawsom wybod am ddechreuad ddefnyddio’r cwrwgl ar afonydd Cymru a thu hwnt gan egluro sut oeddynt yn cael eu adeiladu a chael eu gorchuddio, yn wreiddiol gan groen anifail fel buwch ayb. Dros gyfnod, mae pethau wedi newid ac erbyn heddiw, mae ffibr gwydr (‘fibre glass’) yn cael ei ddefnyddio i selio’r cwrwgl. Mae ‘na gwrwgl ar bron pob afon yng Nghymru ac mae angen trwydded cyn mynd ar y dŵr. Dangoswyd ffilm yn dangos yr holl afonydd a’r gwahanol gwrwglau oedd i gael ac yn ddiddorol, roedd gwahanol math o badl yn cael eu defnyddio ar bron bob afon. Roedd Calfin wedi dod a cwrwgl maint llawn i ddangos yn ogystal â llawer o bethau eraill sydd yn ymwneud â’r grefft. Noson ddiddorol ac addysgiadol a diolchwyd i Calfin ar ran yr aelodau gan Wyn Evans.
Cyn gorffen, cawsom ddyddiad ac amser y daith ddirgel flynyddol gan Mel Jenkins, sef y 4ydd o Fai, gyda’r bws yn gadael am 1.30 o’r gloch.