Ein siaradwr gwadd ar ddiwedd Mawrth oedd Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – Tegryn Jones a chroesawyd ef gan ein cadeirydd Eifion Evans. Brodor o Lambed yw Tegryn a fynychodd Ysgol Uwchradd Llambed cyn graddio o Goleg Prifysgol Aberystwyth ac mae wedi gweithio i’r Parc Cenedlaethol ers naw mlynedd. Yn ystod ei sgwrs fe wnaeth nodi pethau nodweddiadol yn ei fywyd yn ystod ei yrfa.
Ar ôl graddio aeth yn athro yn Ysgol Uwchradd Llanidloes cyn symud ymlaen i fod yn swyddog addysg gyda’r Urdd yng ngwersyll Glan-llyn yn 1993. Yn ystod ei gyfnod yno bu rhaid i’r Urdd addasu eu cynlluniau diogelwch, hyfforddi mwy o staff a hefyd moderneiddio ystafelloedd y gwersyllwyr. Mae’n falch iawn ei fod wedi bod yng nglŵm a’r datblygiadau yma.
Yn dilyn ei gyfnod gyda’r Urdd symudodd i weithio i sefydliad newydd ei greu, sef Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Un peth mae yn falch i fod wedi bod yn rhan ohono gyda’r sefydliad yna oedd dechrau’r grantiau ar gyfer athrawon i gael cyfleoedd i ymweld â gwledydd arall er mwyn profi systemau addysgiadol amrywiol a gwahanol.
Ei swydd nesaf oedd gyda’r mudiad Cadw’ch Cymru’n Daclus ac roedd yn gweithio yno pan ddechreuwyd y rheol o godi ffi am fagiau plastic. Rheol sy wedi gostwng ein defnydd o blastig yn effeithiol.
Dechreuodd ei swydd bresennol yn 2010 gan symud gyda’r teulu i fyw yn Llangwm. Mae’n ymhyfrydu yn waith y Parc Cenedlaethol ac yn hapus iawn am lwybr yr arfordir. Yn 2016 dechreuwyd y sefydliad DPJ ac mae Tegryn yn un o’r ymddiriedolwyr. Sefydliad ydi hwn sy’n cynnig sesiynau cwnsela i amaethwyr sy’n goddef iselder ac afiechydon meddyliol. Mae’n wasanaeth ardal Sir Benfro yn bennaf ond erbyn hyn yn ymestyn i dde Ceredigion a Gorllewin Sir Gar.
Mae hefyd yn weithgar iawn ym myd addysg Gymraeg y Sir ac yn llywodraethwr yn Ysgol Newydd Cae’r Elen, Hwlffordd.
Cawsom gyfle i ofyn sawl cwestiwn iddo cyn daeth y sgwrsio i ben drwy ddiolchiadau gan Eifion a Russell Evans. Darparwyd cawl ar ein cyfer gan Janice a Paul a diolch yn fawr ydynt hefyd.