Cynhaliwyd cyngerdd dan nawdd Hoelion Wyth Hendygwyn yn neuadd Clwb yr Hufenfa Nos Wener, Mawrth 22. Croesawyd yr artistiaid gwâdd sef FFRINDIAU gan Eric Hughes, cadeirydd y gangen. Parti o ardal Llangeitho oeddynt, yn cynnal Noson Lawen draddodiadol gan ddiddori’r gynulleidfa gyda eitemau amrywiol. Yn ogystal â chanu fel parti, unawdwyr a deuawdwyr cafwyd adroddiad ac hefyd dwy monolog. Trefnydd y Parti oedd Huw Davies, mab Islwyn a Cymraes Davies ac arweinydd y cyngerdd oedd ei briod Bronwen Morgan. Llywydd y noson oedd Mr Haydn Lewis o Hendygwyn, cyn aelod o’r Hoelion Wyth a chafwyd araith ddiddorol ganddo. Trefnwyd y noson yn gyfangwbwl ar ran y gangen gan Mel Jenkins a diolchodd y cadeirydd i bawb. Paratowyd lluniaeth gan wragedd yr Hoelion. Bydd elw’r noson yn cael ei gyflwyno i achosion da lleol.