Cyfarfu’r Hoelion yn ôl ei harfer yng Nghaffi Beca ar nos Fercher,; Mawrth 26ain. John Davies o Foncath,; (; John Cilrhiwe ); oedd ein siaradwr gwadd i fod ar gyfer mis Mawrth ond methodd a bod yn bresennol oherwydd salwch. Roedd wedi bwriadu sôn am ei yrfa fel chwaraewr rygbi ond yn ei absenoldeb cafwyd crynodeb o’i hunangofiant “ Dala’r slac yn dynn” gan ein cadeirydd Nigel Vaughan. Diolchwyd i Nigel am noson ddiddorol a dymunwyd gwellhad buan i John.