Cynhaliwyd Cinio Blynyddol y gangen yng Nghwesty Nantyffin ac wedi mwynhau’r swper blasus, cyflwynodd y Cadeirydd Ithel Parri Roberts, y g[r gwâdd sef John Davies, Cilrhiwe, y chwaraewr rygbi enwog o Boncath. Cafwyd noson hwylus yn ei gwmni yn gwrando ar storiau difyr yn ystod ei yrfa. Diolchodd Eric Hughes iddo ar ddiwedd y noson. Hoffem ddiolch yn fawr i Mr. Ronnie Howells am drefnu’r cwbl, fel arfer.
Llongyfarchiadau i Mr. Claude James am ennill y ‘Goron’ yn Eisteddfod yr Hoelion Wyth a gynhaliwyd yng Nghaffi Beca ar Nos Wener, Mawrth 5ed.