Skip to content

Mai 2025

    Ar y 1af o Fai, i orffen y tymor eleni, aeth yr aelodau ar daith ddirgel a drefnwyd, fel arfer, gan Mel Jenkins, ein swyddog adloniant.  Teithio ar draws yr M4 a chyrraedd Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

    Dyma ddisgrifiad ar wefan yr amgueddfa: “Mae Sain Ffagan yn annwyl i bobl Cymru – dyma atyniad treftadaeth mwyaf poblogaedd y wlad. Amgueddfa’r bobl yw hi, yn adrodd hanes Cymru trwy fywydau bob dydd ei thrigolion”.

    Yr oedd yn ddiwrnod heulog braf a chafwyd prynhawn hyfryd yn cerdded o amgylch yn ymweld â’r hen adeiladau oedd yn perthyn i’r oesoedd cynt yng Nghymru. Rhyfeddwyd at y grefft o symud adeiladau o’u man gwreiddiol i’w sefydliadau newydd yn yr amgueddfa. Un adeilad roedd yn rhaid ei weld oedd hen Swyddfa Bost, Blaenwaun gan fod y rhan fwyaf yn ei chofio ar agor yn y pentref.

    Troi tuag adref wedyn a chael pryd o fwyd blasus yn Llangennech ar y ffordd. Yn absenoldeb Claude James, ein cadeirydd, diolchwyd i Mel Jenkins am drefniadau’r diwrnod gan Ithel Parri-Roberts.

    Edrychwn ymlaen i gwrdd eto ym mis Medi pan fydd croeso cynnes i aelodau newydd i ymuno â’r gangen.