Skip to content

Mai 2024

    Ar y 4ydd o Fai, i orffen y tymor eleni, aeth yr aelodau ar daith ddirgel a drefnwyd, fel arfer, gan Mel Jenkins, ein swyddog adloniant.  Teithio i gyfeiriad Ceredigion a chyrraedd Tanygroes, lleoliad yr Amgueddfa Pwer, pryd cawsom groeso arbennig gan y staff.

    Sefydlwyd yr amgueddfa yn 2003 ar ôl prynu’r tir yn 2001 ac agorwyd gyda dwy neuadd yn dangos 6 injan yn unig, ond dros y 17 mlynedd yn dilyn, mae hyn wedi cynyddu i 80 o beiriannau ac injans, â’r rhain i gyd yn gweithio. Mae’r safle wedi ei rannu i nifer o adeiladau sy’n cynnwys neuaddau lle gwelir  gwahanol beiriannau ac injans – rhai ohonynt yn anferth. 

    Yn ogystal mae yma  gyfanswm o 180 o gyfnewidfeydd ffôn gweithredol, radios, beiciau modur a.y.b. ar y safle. Dros y blynyddoedd mae’r amgueddfa wedi derbyn peiriannau pwysig yn ymwneud â hanes diwydiannol Cymru a Lloegr.