Aeth yr aelodau ar daith ddirgel – diolch i Mr. Mel Jenkins am drefnu’r cyfan. Ymwelwyd â Fferm Waterson, Trecastell, Sir Benfro – cartref Mr. Henry Dixon sydd â diddordeb mewn casglu hen dractorau. Cafwyd croeso cynnes gan y teulu a ffrindiau yn cynnwys cwpaned o de a chacennau o bob math – dechreuad da i’r noson! Tywysodd Henry Dixon pawb o gwmpas ei gasgliad ac roedd pob un ohonynt mewn cyflwr mintys a chafwyd hanes nifer o’r tractorau – casgliad gwych; cafwyd tipyn o drafodaeth wrth gerdded o amgylch y peiriannau. Diolchodd Mr. Cynwyl Davies i Henry Dixon a’r teulu am eu croeso cynnes ac fe gytunodd pawb fod yr ymweliad wedi bod yn un arbennig. Yna, ymlaen i Dafarn y Delyn yn Nhreletert lle cafwyd pryd o fwyd blasus; diolchwyd iddynt hwythau am y croeso. Noson i’w chofio!
Aelodau’r Hoelion Wyth yng nghwmni Henry Dixon gyda un tractor o’r casgliad