I orffen y tymor aeth yr aelodau ar Daith Ddirgel gan ymweld â Chanolfan Milfeddygon yng Nghaerfyrddin. Cawsant eu tywys o gwmpas y ganolfan gan un o’r mil-feddygon, a fu’n egluro’i gwaith a’r gofal a geir yno. Diolchodd Cynwyl Davies iddo am ei arweiniad ac wedi hynny aeth pawb am bryd o fwyd blasus yn y ‘Fox and Hounds’ yn Bancyfelin. Diolchodd Ithel Parri Roberts, y llywydd, i bawb a wnaeth y noson yn un mor lwyddiannus.