Skip to content

Ionawr 20205

    Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y flwyddyn Newydd ar Ionawr 2il, fel arfer yn lolfa Clwb Rygbi Hendy-gwyn.  Ein siaradwr gwadd oedd y newyddiadurwr Tweli Griffiths.  Yn enedigol o Bencader, cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgil Ramadeg Llandysul ac wedyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.

    Siaradodd am rai o’r gwledydd bu’n ffilmio ynddynt ar ran rhaglenni newyddion.  Bu’n ffilmio mewn llawer gwlad yn cynnwys Cuba, Etheopia, yr Arianin, Lybia, Israel a llawer gwlad arall.  Soniodd yn arbennig am Lybia lle cafodd groeso cynnes a chael cyfle i gwrdd a chyfweld Gadafi, arweinydd y wladar y pryd.

    Aeth ymlaen i sôn am eisteddfod Cymru De Affrica yn Johanesburg.  Cyrhaeddodd y gwesty ac yn annisgwyl, gweld poster llachar ac arno Eisteddfod 93.  Bu’n ymweld ag Ethiopia – ei hoff wlad er gwaethaf y dioddefaint a’r tlodi enbyd. Iwerddon oedd gwlad arall bu’n ymweld yn rhinwedd ei swydd a hynny adeg y trwbl a’r terfysg.

    Newid cywair am gwarter olaf y noson wrth iddo ddangos ei ddawn fel consuriwr.  Mae diddordeb Tweli yn y grefft yma’n mynd nôl i’r amser oedd yn yr ysgol a dangosodd amryw o driciau oedd yn wirioneddol glyfar. 

    Noson ddiddorol dros ben a diolchwyd i Tweli gan Wyn Evans.