Yng nghyfarfod cyntaf 2019 ar Ionawr 3ydd, y siaradwr gwâdd oedd Y Parchg. Tom Evans o Peniel. Croesawyd ef yn gynnes gan y Cadeirydd, Claude James.
Cafwyd hanes ei fywyd o’r amser y bu’n byw yn Llanbed hyd ei ymddeoliad. Yn ystod ei blentyndod bu’n byw yn Llwynygroes yn Sir Aberteifi a mwynhau bywyd pentref. ‘Roedd am fod yn bregethwr pan yn blentyn ond yn gyntaf bu’n gweithio mewn siop dillad yn Llanbed.
Ei Eglwys gyntaf oedd Bethania, Tymbl lle cafodd ei ordeinio yn ŵr ifanc 21 oed. Bu yno am chwe mlynedd cyn mynd i weithio wedyn i ‘Gymorth Cristnogol’ a byw yn Aberhonddu.
Symudodd ymlaen wedyn i’r ‘Cyfryngau’ a gweithio i’r B.B.C.; yna i ddarlithio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Ar ôl ymddeol, aeth i wirfoddoli gyda ‘Dicslecsia Cymru’ a’r elusen C.I.S. sy’n cefnogi pobl yn dioddef o cancr.
Ers 2011 mae Tom Evans wedi bod yn Gaplan i Heddlu Dyfed Powys. Nid oedd Caplaniaid i gael cyn hynny ac mae’n un o wyth a gafodd eu dewis. I ddechrau, roeddent yn cael 8 awr y mis i gefnogi swyddogion yr Heddlu, ond erbyn hyn maent yn cael 15 awr y mis gyda galw mawr am eu gwasanaeth. Mae’n cyfrif y saith mlynedd, ers ei benodi yn Gaplan, fel y rhai mwyaf buddiol ei yrfa. Heb enwi neb, bu’n son am enghreifftiau pan oedd angen cymorth a chlust i wrando ar unigolion yn yr Heddlu, yn enwedig ar ôl dod ar draws erchyllderau yn rhinwedd eu swydd.
Dangoswyd diddordeb mawr yn ei gyflwyniad a diolchwyd yn wresog iddo gan Mel Jenkins.