Yng nghyfarfod mis Ionawr, y siaradwr gwâdd oedd Lloyd James o Bwlltrap. Roedd ei yrfa ym myd addysg a bu’n Bennaeth ar bedair Ysgol Uwchradd, yn cynnwys Ysgol Griffith Jones, San Cler. Mae ganddo ddiddordebau mewn hanes, yn enwedig hanes Cymru,yn enwedig hanes Owain Glyndwr a bu, am gyfnod, yn ysgrifennydd y Gymdeithas honno.
Er ei ddiddordeb mewn hanes, testun ei gyflwyniad oedd ‘Rhagfarnau’ Dechreuodd wrth gofio’r rhagfarn oedd yn erbyn yr iaith Gymraeg pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Rhydaman. Roedd yr athrawon yn medru siarad Cymraeg, ond oherwydd eu bod yn wrth-Gymreig, yn mynnu siarad Saesneg.
Fe wnaeth nodi fod yr iaith Gymraeg wedi dechrau yn y 5ed Ganrif ac ar un adeg yn cael ei siarad trwy Brydain Fawr i gyd, felly yr oedd dros 1,500 mlwydd oed ac oherwydd hynny, yn un o’r ieithoedd hynaf yn y byd.
Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn gwleidyddiaeth, ac yn ystod yr adeg pan fu’n byw yn Lloegr, roedd yn mynd yn gyson i’r Galeri Cyhoeddus yn y Tŷ Cyffredin i wrando ar drafodaethau a dadleuon gan enwogion fel Michael Foot ac Enoch Powell.
Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn gwleidyddiaeth, ac yn ystod yr adeg pan fu’n byw yn Lloegr, roedd yn mynd yn gyson i’r Galeri Cyhoeddus yn y Tŷ Cyffredin i wrando ar drafodaethau a dadleuon gan enwogion fel Michael Foot ac Enoch Powell.
Roedd yn cyfaddef ei ragfarn yn erbyn y Cynulliad, sef Senedd Cymru lle, yn ei dyb ef, mae safon trafodaethau llawer o’r siaradwyr yn wan iawn. Roedd yn cymharu Gweinidogion Cymru gyda rhai Llundain, ac hyd yn oed yr Alban – ac yn dod i’r un casgliad, eu bod yn wan! Roedd hefyd yn rhagfarnllyd wrth sôn am y teulu brenhinol a llawer Sefydliad arall.
Roedd yn dweud gyda gwên, nad oedd yn disgwyl i bawb gytuno ag ef a byddai siwr o fod wedi codi gwrychyn ambell un. Yr oedd yn gyflwyniad yn llawn hiwmor a fwynhawyd gan bawb a diolchwyd iddo gan Eric Hughes.