Arwyn Davies o Gaerfyrddin,gynt o Abernant oedd ein gwestai yng nghyfarfod Mis Ionawr a gynhaliwyd fel arfer yn lolfa’r Clwb Rygbi yn Hendygwyn. Croesawyd ef gan y cadeirydd Eric Hughes a bu’n sôn am y cymeriadau ddaeth i’w hadnabod ar hyd ei fywyd. Swyddog gyda’r Adran Briffyrdd y cyngor oedd Arwyn cyn ymddeol a chawsom hanes llawer cymeriad a fu’n gweitho gyda hwy dros y blynyddoedd yn ogystal â chymeriadau ei blentyndod yn Abernant. Noson arall ddifyr dros ben. Diolchwyd iddo gan Ithel Parri-Roberts. Donfonwyd dymuniadau’r gagnen am wellhad buan i ddau o’r aelodau sef John Arfon Jones a Ted Gamage – y ddau wedi bod yn yr ysbyty yn ddiweddar.