Yng nghyfarfod mis Ionawr, croesawodd y Cadeirydd, Mr. Eric Hughes, y gŵr gwâdd sef Richard Thomas, y mil-feddyg o Aberteifi (neu Dic y Fet). Cafwyd noson yn llawn hiwmor ganddo a bu’n sôn am ei fywyd a’i anturiaethau wrth ymarfer ei alwedigaeth. Yn siwr, bydd nifer o’r straeon yn dal yn y cof am amser maith. Diolchodd Mr. Myrddin Parry iddo am noson wych!