Y gwr gwâdd yn y cyfarfod misol oedd y Dr. Felix Aubel. Croesawyd ef gan y Cadeirydd, Mr Verian Williams. Testun ei araith oedd ‘Hen Bethau’ ac fe gafwyd tipyn o wybodaeth am grochenwaith Stafford ar hyd yr oesoedd. Roedd y noson yn agored ac ymunodd nifer o’r gwragedd. Cafwyd tipyn o wybodaeth am y darnau llestri a ddaeth yr aelodau i’w harddangos. Bu’n noson addysgiadol a diolch yn fawr i Antur Teifi y Filltir Sgwar, am noddi’r noson.