Cynhaliwyd cyfarfod diweddaraf y gangen ar Hydref 2il yng Ngwesty’r Tâf. Croesawyd pawb gan y Cadeirydd Claude James. Danfonodd ein dymuniadau gorau i Wyn a Meirwen, gan obeithio y bydd eu mab Dafydd yn gwella’n fuan, a hefyd i Ithel Parri-Roberts ar ôl i Jean gael damwain yn ddiweddar ond bod erbyn hyn yn gwella.
Yna estynnwyd croeso i’r siaradwr gwadd sef Mr Haydn Lloyd, Ffynnonlwyd, Llangynin. Cyflwynodd Haydn ei hanes i ni dros ddegawdau ei fywyd. Cafodd ei eni ar fferm yn ardal Wrecsam. Yn ifanc, roedd yn mwynhau canu ac yn cystadlu yn eisteddfodau yn yr ardal ac yn cael tipyn o lwyddiant. Pan ddaeth yn amser i fynd i’r ysgol uwchradd, yn lle mynd i’r ysgol agosaf, roedd ei fam am iddo fynd I Ysgol Maes Garmon, lle’r oedd Aled Lloyd Davies yn brifathro. O dan ei ddylanwad, daliodd ymlaen i ganu gan ennill cystadleuaeth talent Gogledd Cymru. Ar ôl llwyddo yn ei arholiadau yn yr ysgol, penderfynodd fynd i brifysgol Reading I astudio Economeg Amaethyddiaeth. Yn ystod ei ail flwyddyn yn y coleg, treuliodd dri mis ar fferm yn Nebrasca yn yr Unol Daleithiau a oedd yn dipyn o brofiad.
Ar ôl graddio o’r coleg roedd ddim yn siŵr i ba gyfeiriad i fynd, ond yn y diwedd derbyniodd swydd gyda chwmni Dalgetty yn felin Trefyclo. Ar ôl dwy flynedd, symud i’r felin yng Nghaerfyrddin. Yn y cyfnod yma ymunodd a Chôr Meibion Caerfyrddin ac erbyn hyn, ef yw cadeirydd y côr. Yn yr adeg yma, cyfarfu ac Eleri a phriododd y ddau yn 1994. Symudodd y ddau i fyw yn Ffynnonlwyd, fferm rhieni Eleri gan gymered dros y fferm a phenderfynu sefydlu buches odro. Ganwyd dau fab iddynt, sef Llŷr a Rhodri.
Daeth yn rheolwr y felin ond yna symud i fod yn rheolwr ar fusnes Elm Dairy. O fewn blwyddyn ar ôl ymuno aeth y busnes i’r wal a chollodd ei swydd a hefyd llawer o arian am na gafodd ei dalu am y llaeth oedd wedi gwerthu i’r ffatri.
Digwydd cwrdd yn fuan wedyn â pherchennog Cwmni All Pumps a oedd yn edrych i werthu’r busnes ac er bod arian yn brin, penderfynu prynu’r busnes. Tyfodd y busnes drosamser ac mae nawr yn fusnes llewyrchus iawn yn dod o hyd i ddŵr ar ffermydd a thiroedd eraill.
Siglwyd y teulu yn fuan wedyn pan gafodd Eleri wybod fod ganddi gancr y fron. Cafodd nifer o driniaethau dros gyfnod o amser, gan frwydro’n galed i wella. O’r diwedd, cafodd y newyddion fod y cancr wedi mynd. Yn 2014 cafodd Eleri ei gwobrwyo fel Gwraig Fferm y Flwyddyn dros Gymru yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd ond yn fuan wedyn, cafodd wybod bod y cancr wedi dod nôl. Er brwydro’n ddewr eto, bu farw Eleri yn 2015 ac roedd hyn yn amser caled iawn i’r teulu.
Erbyn hyn mae bywyd wedi symud ymlaen. Mae cwmni All Pumps yn cadw Haydn yn brysur ac mae ganddo bartner newydd sef Siân a oedd yn nyrs yn Aberystwyth. Mae Llŷr wedi cymryd gofal o’r fferm ac mae Rhodri a fferm yn sir Benfro.
Diolchodd y cadeirydd i Haydn am ddod atom a dymunodd yn dda iddo ef a’r teulu i’r dyfodol. Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Iau, Tachwedd 6ed a mae croeso cynnes i aelodau newydd i ymuno â ni i fwynhau noson o gymdeithasu yn Gymraeg.