Skip to content

Hydref 2024

    Newidiwyd y drefn ar gyfer cyfarfod mis Hydref pan benderfynwyd mynd fel cangen i wrando ar Delwyn Sion ym Methlehem Newydd, Pwll Trap.

    Cafwyd noson ddifyr dros ben wrth i Delwyn Sion olrhain hanes ei fywyd ac yn canu rhai o’i ganeuon cofiadwy gyda chymorth y cerddor Myfyr Isaac ar y gitâr.  Hefyd cafwyd eitem wych gan Daniel O’Callaghan.