Cynhaliwyd cyfarfod mis Hydref, fel arfer, yn lolfa Clwb Rygbi Hendy-gwyn. Croesawyd pawb gan Claude James, ein cadeirydd cyn iddo estyn croeso cynnes a chyflwyno ein siaradwr gwadd, sef Meic Thomas. Brodor o Hendygwyn ond, ers deugain mlynedd, yn byw yn Hwlffordd a chyn ymddeol, yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol. Yn ddiddorol, roedd Meic yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf i sefydlu cangen Hendy-gwyn o’r Hoelion 8, a hynny yn nhafarn yr Yelverton yn y dre. Testun ei gyflwyniad oedd Abaty Hendy-gwyn ar Daf. Eginodd ei ddiddordeb yn y pwnc ar ol iddo ymuno iwrando ar ddarlith ar-lein am y Sistersiaid gan Yr Athro Janet Burton o Brifysgol y Drindod Dewi Sant a hynny yn ystod y cyfnod clo. Roedd ei ddiddordeb yn ddigon iddo ymchwilio ymhellach a phenderfynu cofnodi’r hanes.
Yn dilyn ei waith trylwyr, penderfynodd gyflwyno’r hanes i gymdeithasau, a gwneud hynny ar ffurf ymgom, gyda hiwmor ac wedi ei wisgo mewn gwisg y byddai Abad olaf yr Abaty yn gwisgo. Cafodd yr Abaty yn Hendy-gwyn, ynglŷn a llawer Abaty arall ei ddinistrio ac mae hyn yn bwysig iawn yn hanes Cymru. Roedd hwn yn gyflwyniad gwych a ffordd dda i glywed am hanes, efallai nad oedd rhan fwyaf yn ymwybodol ohono. Ar ddiwedd y cyflwyniad, cafwyd ychydig o amser i holi cwestiynau cyn i Ithel Parri-Roberts ddiolch yn wresog iddo am noson ddiddorol dros ben.